Aráe paneli solar ffotofoltaig newydd i gyd-fynd â thyrbin gwynt presennol YnNi Teg
Mewn datblygiad newydd cyffrous yn y sector ynni cymunedol yng Nghymru, mae YnNi Teg a’n contractwr Vital Energy, wedi cwblhau adeiladu ac integreiddio fferm solar ffotofoltaig newydd gyda’n tyrbin gwynt presennol ar Fferm Bwlchgwynt, ger Meidrim, Sir Gaerfyrddin.
Mae cyfuno ynni’r gwynt sydd ar ei gryfaf yn y gaeaf gydag ynni’r haul sydd ar ei gryfaf yn yr haf yn gam sylweddol ymlaen tuag at wneud y mwyaf o gynhyrchiant ynni glân mewn lleoliad ar y cyd. Mae’n arddangos hefyd sut y gall datrysiadau arloesol oresgyn y cyfyngiadau sydd ar y rhwydwaith dosbarthu trydan ac mae’n rhoi patrwm ar gyfer mudiadau ynni cymunedol eraill yng Nghymru.
Daeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, staff Ynni Teg ac aelodau’r Bwrdd, ynghyd â pherchennog y tir a’r contractwr at ei gilydd ar gyfer y lansio swyddogol yng ngofal Mari Arthur, Cadeirydd y Bwrdd.
Ymagwedd Gydweithrediadol at Ynni Adnewyddadwy
Ers ei sefydlu yn 2017, mae YnNi Teg wedi arloesi ym maes ynni cymunedol. Mae’r sefydliad yn rhedeg tyrbin gwynt 900kW ar Fferm Bwlchgwynt, a gomisiynwyd ym mis Awst 2017. Mae’r tyrbin yn cynhyrchu 1,800–2,000 MWh o drydan yn flynyddol—digon i gyflenwi tua 500 o gartrefi.
Nawr, drwy gynnwys aráe solar yn y gosodiadau, mae YnNi Teg yn ehangu ei bortffolio ynni adnewyddadwy, gan arddangos sut y gall technolegau gwynt a solar gyd-fynd â’i gilydd i wneud y mwyaf o allbwn ynni. Mae’r ymagwedd arloesol yn rhoi mwy o ddylanwad i gysylltiad presennol y safle â’r grid i ychwanegu 576kW o gapasiti cynhyrchiant solar.
Datrysiadau Arloesol i Gyfyngiadau’r Grid
Mae gallu’r rhwydwaith dosbarthu trydan, y ‘grid’, i dderbyn cysylltiadau newydd ar gyfer ynni adnewyddadwy yn gyfyngedig iawn, felly mae hi’n hanfodol i wneud y mwyaf o unrhyw allu a sicrheir. Ym Mwlchgwynt, mae cyfyngiad allforio o 900kW ar ein cysylltiad ni. Y rhan fwyaf o’r amser, mae’r tyrbin gwynt yn gweithio oddi tan y cyfyngiad hwn, gan adael capasiti “dros ben” y gellir ei ddefnyddio. Drwy ychwanegu aráe solar at y safle, fe allwn ni wneud y mwyaf o’r defnydd o’r cysylltiad presennol heb fod ag angen am un newydd, a fyddai’n anodd ei sicrhau.
I wneud yn siŵr ein bod ni’n aros o fewn y terfyn allforio o 900kW, rydym ni’n cydymffurfio â rheoliadau G100, sy’n gofyn rheolaeth weithredol o’r cynhyrchiant drwy gyfrwng pob ased a gysylltir. Ym Mwlchgwynt, mae hyn y golygu monitro’r allbwn o’r tyrbin gwynt a’r aráe solar fel ei gilydd. Pe bydd raid, gellir lleihau’r allbwn solar i wneud yn siŵr nad yw cyfanswm y cynhyrchiant yn mynd dros y terfyn. Mae rheolaeth fanwl fel hon yn caniatáu i ni ddefnyddio’r grid yn effeithlon ac integreiddio ynni adnewyddadwy ychwanegol.
“Mae hon yn enghraifft ardderchog o sut y gallwn ni wneud y mwyaf o’n hadnoddau ynni adnewyddadwy,” meddai Mari Arthur, Cadeirydd Bwrdd YnNi Teg. “Rydym ni’n gallu ychwanegu cynhyrchiant solar heb fod ag angen cysylltiad newydd â’r grid, sy’n gwneud y prosiect yn gost-effeithiol ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol hefyd. Honno yw’r ffordd o feithrin economïau lleol sy’n fwy cadarn.”
Ynni sy’n Canolbwyntio ar Gymunedau i’r Dyfodol
Yn Gymdeithas Budd Cymunedol, mae YnNi Teg wedi ymrwymo i ailfuddsoddi elw yn y cymunedau lleol wrth gefnogi datblygiad y sector ynni cymunedol yn fwy eang. Mae incwm o’r tyrbin ym Mwlchgwynt eisoes yn cyfrannu at dalu llog i’n haelodau ac ariannu prosiectau cymunedol lleol fel Cyngor Cymunedol Meidrim, yr Ysgol Gynradd a’r Eglwys yno a Banc Bwyd Caerfyrddin.
Bydd yr aráe solar newydd yn cryfhau’r effaith hon, gan gynhyrchu ynni glân ychwanegol ac yn cryfhau buddiannau ariannol ac amgylcheddol eto er mwyn y gymuned.
Edrych Ymlaen
Dim ond megis dechrau ar uchelgeisiau mwy eang YnNi Teg y mae Aráe Solar Bwlchgwynt. Drwy roi’r prosiect hwn sy’n cyfuno’r gwynt a’r haul ar waith yn llwyddiannus, mae’r sefydliad yn gobeithio hyrwyddo mentrau tebyg ledled Cymru, gan arddangos sut y gall prosiectau ynni cymunedol oresgyn heriau technolegol ar gyfer darparu manteision sylweddol.
“Rydym ni’n ystyried hwn yn lasbrint i’r dyfodol,” ychwanegodd Jon Townend, Cyfarwyddwr Gweithredol YnNi Teg. “Drwy gyfuno technolegau fel hyn i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o seilwaith presennol, fe fydd y sector ynni cymunedol yn parhau i fod yn rhan effeithiol o’r pontio at ddyfodol o ynni sy’n lanach, a llai costus.’’
Fel mae’r gwynt a’r haul yn cydweithio ar Fferm Bwlchgwynt, mae YnNi Teg yn cadarnhau ei waith arweiniol o ran arloesi ym maes ynni adnewyddadwy, sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Mae YnNi Teg yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Ynni a Banc Datblygu Cymru am eu cefnogaeth i wireddu’r prosiect hwn.