Cynnig cyfranddaliadau

Cynnig cyfranddaliadau

Cynnig cyfranddaliadau cymunedol Ynni Teg ar gyfer Tyrbin Gwynt Penrhiw Fach bellach wedi cau.
Mae’r cynnig cyfranddaliadau ar gyfer tyrbin gwynt cymunedol newydd Cymru yng Ngheredigion bellach wedi cau ac mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd.
Lansiwyd y cynnig cyfranddaliadau ym mis Rhagfyr 2025 ac yn dilyn ymgyrch cynnig cyfranddaliadau llwyddiannus, fe wnaethom ragori ar ein targed o £350,000 a chodi £500,000.
Mae’r arian a godir yn cefnogi grant gan Lywodraeth Cymru a benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru yn cyfrannu at gostau adeiladu – gan roi’r prosiect ym mherchnogaeth gadarn y gymuned.
Pam ddylech chi fuddsoddi mewn ynni cymunedol?
- Meddiant democrataidd – Daw pob cyfranddaliwr yn aelod o Ynni Teg gyda phleidlais gyfartal mewn penderfyniadau allweddol, heb ystyriaeth i faint y buddsoddiad
- Elw teg – Disgwylir llog o 6% pan fydd ar waith
- Cyfoeth lleol yn aros yn lleol – Bob blwyddyn, bydd incwm gwarged yn llifo i’n cronfa cymuned leol, gan gefnogi camau hinsawdd lleol, prosiectau effeithlonrwydd ynni, a mudiadau cymunedol ar draws Ceredigion.
Gall unigolion a sefydliadau fuddsoddi rhwng £100 a £100,000. Gellir tynnu cyfranddaliadau yn ôl yn unol â rheolau’r Gymdeithas ac, yn amodol ar berfformiad, disgwylir iddynt ddarparu cyfradd llog o 6% unwaith y bydd y llafnau’n troi.
Amserlen y Prosiect
- Cydsyniad cynllunio: Sicrhawyd
- Dechrau adeiladu: Rhagfyr 2025
- Cynhyrchiant cyntaf: Mai 2026
- Bydd eich buddsoddiad yn dechrau cynhyrchu elw i chi o: Gorffennaf 2027
Sut i Fuddsoddi
Bydd y cynnig o gyfranddaliadau yn agor ar 11eg o fis Rhagfyr 2025 ac yn cau ar 11eg o fis Mawrth 2026, neu’n gynt os gyrhaeddir mwyafswm tanysgrifiad.
Gallwch ddarllen y Ddogfen Cynnig Cyfranddaliadau lawn a gwneud cais am gyfranddaliadau ar-lein yn: ttps://www.ethex.org.uk/invest/ynni-teg
Os oes diddordeb gennych i fuddsoddi, fe ddylech wneud felly ddim ond wedi darllen y Ddogfen Cynnig o Gyfranddaliadau yn llawn a chymryd cyngor priodol ariannol ac fel arall. Nid yw’r cynnig o gyfranddaliadau yn gynwysedig gan y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol na’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol. Gallech golli cyfran o’ch arian neu’r cwbl.
Beth yw’r cynnig cyfranddaliadau?
Mae ein cynnig ni o gyfranddaliadau yn caniatáu i unrhyw un dros 16 mlwydd oed fod â rhan mewn prosiect ynni adnewyddadwy drwy brynu cyfranddaliadau. Bydd Ynni Teg yn defnyddio’r arian a godir yn y dull hwn i helpu i dalu cost cyfalaf y prosiect.
Rydym ni’n talu llog teg i’n haelodau sy’n gyfranddeiliaid ar y cyfalaf a fuddsoddir ac fe ddefnyddir elw gwarged er budd cymunedol. Caiff eich cyfalaf chi ei ad-dalu wedyn ar ddyddiad y cytunir arno yn gyfnewid am ildio eich cyfranddaliadau yn ôl i’r gymdeithas.
Wrth brynu cyfranddaliadau a dod yn aelod, fe fyddwch chi’n helpu i liniaru newid hinsawdd a meithrin cymunedau mwy gwydn sy’n llai agored i gyflwr newidiol y farchnad ynni fyd-eang. Rydym ni’n arbennig o awyddus i annog pobl sy’n byw yn lleol i fanteisio ar aelodaeth a chyfranddaliadau.
Cynigion blaenorol o gyfranddaliadau
Rydym ni’n ymfalchïo am fod llu o bobl yn ein cefnogi ni.
Denodd ein cynnig diweddaraf o gyfranddaliadau dros 200 o aelodau newydd ac fe wnaethom ni lwyddo i godi bron iawn i £500k ar gyfer ein tyrbin gwynt 900kW yn Sir Gaerfyrddin. Enwyd y tyrbin yn Geraint Gwyllt gan bobl leol. Mae’n atal oddeutu 827 tunnell o CO2 rhag mynd i’r awyrgylch bob blwyddyn ac fe ychwanegir elw gwarged at gronfa gymunedol a ddefnyddir i gefnogi prosiectau lleol. Darllenwch fwy am hynny ar dudalen ein Prosiectau.
Cynigion cyfranddaliadau yn y dyfodol
Os hoffech gael gwybod am gynigion cyfranddaliadau yn y dyfodol, defnyddiwch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb.
Rheolau
Llywodraethir YnNi Teg yn unol â chyfres o reolau a gofrestrir gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae ein rheolau ar gael i’w lawrlwytho yma.
