Ynni teg i gymunedau yng Nghymru


Ynni teg i gymunedau yng Nghymru
Menter gymdeithasol ydym ni sy’n datblygu prosiectau ynni cymunedol ledled Cymru ac yn cynnig cefnogaeth broffesiynol i fudiadau lleol.
Yma yn Ynni Teg, rydym ni’n canolbwyntio ar ddatblygu asedau ynni adnewyddadwy a all fod ym mherchnogaeth a rheolaeth y cymunedau i helpu i ddiwallu eu hanghenion ynni i’r dyfodol a darparu buddiannau mwy eang i gymunedau lleol drwy gyfrwng ein cronfeydd budd cymunedol.
Ynni cymunedol yng Nghymru – gweithio gyda’n gilydd
Rydym ni’n rhan o rwydwaith sy’n ehangu o fudiadau ynni cymunedol sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth yn lleol a dod yn rhan hyfyw o’r economi werdd yng Nghymru. Gan weithio ar y cyd ag Ynni Cymunedol Cymru, ein swyddogaeth ni yw eu galluogi i gyflawni eu hamcanion amrywiol wrth weithio gyda’n gilydd i rannu gwybodaeth, adnoddau, risg a buddiannau cyffredin.

Perchnogaeth cymunedau: Ymunwch â ni wrth Wneud Gwahaniaeth
Rydym ni’n datblygu ein prosiectau ein hunain hefyd. Cyfranogwch ym mhontio Cymru tuag at ddyfodol o ynni glân drwy fod yn aelod o’n cymdeithas ni a buddsoddi yn ein hasedau ynni adnewyddadwy. Byddwch yn ennill cyfran deg o log yn ogystal â bod â dylanwad ar yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei gyflawni ac ar y ffordd y byddwn ni’n darparu buddiannau cymunedol yn sgil y prosiectau hyn.

Cwblhewch amcanion eich prosiect ynni
A oes gan eich mudiad chi brosiect mewn golwg ac a oes angen cymorth i’w wireddu? Rydym ni’n cynnig cefnogaeth gynhwysfawr i helpu i gyflawni eich amcanion o ran ynni cynaliadwy. O astudiaethau dichonolrwydd hyd at roi ar waith, bydd ein tim ymroddedig proffesiynol ni ar gael i’ch helpu chi ar bob cam o’r daith.

Os ydych chi’n ystyried sefydlu mudiad ynni cymunedol ac yn awyddus i ganfod rhagor am sut i fwrw iddi ac ymuno â’n rhwydwaith ni, cysylltwch ag Ynni Cymunedol Cymru.
Gwybodaeth am rai o’r prosiectau ynni cymunedol y buom ni’n gweithio arnyn nhw

Ynni Newydd
Fferm solar 30MW gyda chydsyniad yw hon ar y ffin rhwng Sir y Fflint a Swydd Gaer

Prosiect Ynni Cymunedol Caerfyrddin
Mae Ynni Teg yn gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Sir Gar ar gomisiwn i Gyngor Tref Caerfyrddin.

Geraint Gwyllt
Mae gan Ynni Teg dyrbin gwynt 900kW ar waith ym Mwlchgwynt gerllaw Meidrim, Sir Gaerfyrddin.
