Cronfa Gymunedol Leol
Mae gwerthiant yr ynni a gynhyrchir gan ein hoffer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn darparu ffrwd reolaidd o incwm. Defnyddir yr incwm dros ben i gyrraedd amcanion cymdeithasol y gymdeithas o ran darparu budd lleol drwy ein cronfa gymunedol leol.

Mae’r swm sydd ar gael at y diben hwn yn ddibynnol ar berfformiad yr offer a phrisiau ynni cyfredol. Wrth roi tyrbin Bwlchgwynt ar waith yn 2017 rhoddwyd swm un taliad dechreuol o £15,000 yn y gronfa, ac fe’i dilynwyd gan ychwanegiadau blynyddol. Rydym ni’n amcangyfrif y bydd hyn yn cydgrynhoi dros yr oes weithredol sy’n weddill hyd at dros £200k, h.y. tua £12,000 bob blwyddyn.
Sut i Wneud Cais am Gyllid
Os ydych chi’n byw yn ardal Meidrim neu yn ardal fwy eang gorllewin Sir Gaerfyrddin ac mae gennych chi gais ar gyfer prosiect lleol er lles eich cymuned yr ydych chi’n ceisio cyllid ar ei gyfer, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Fe fyddai hi’n well gennym ni ariannu prosiectau sydd â rhywfaint o gysylltiad â’r amgylchedd neu newid hinsawdd (oherwydd honno yw ein cenhadaeth ni) ond y flaenoriaeth yw iddo fod yn rhywbeth y mae’r gymuned leol yn awyddus i’w weld yn digwydd.
Gellir gwneud cais am gyllid yn uniongyrchol, gan ddefnyddio’r ffurflen hon.
Os na ddefnyddir y cronfeydd blynyddol i gyd, fe fyddwn ni’n gwneud cyfraniadau at achosion priodol.
Dyma rai o’r prosiectau a gafodd eu cefnogi:
Rhoddwyd grant o £10,250 i Ysgol Gynradd Meidrim i greu llecynnau gweithgareddau awyr agored newydd gyda strwythurau, llwybrau a ffensys addurniadol.


Derbyniodd Eglwys Meidrim grant o £3,000 ar gyfer gwresogyddion a blwch rheoli newydd mwy effeithlon. Cafwyd gwelliannau i’w goleuadau a gosodwyd gwifrau newydd yn y system hefyd.
Mae Cyngor Cymuned Meidrim wedi derbyn sawl grant ar gyfer costau atgyweirio ac adnewyddu’r maes chwarae lleol yn y pentref.
Derbyniodd Cyngor Cymuned Llanwinio grant bychan tuag at atgyweirio ar gyfer cynnal a chadw’r Neuadd leol.
Banc Bwyd Caerfyrddin: Rydym ni wedi darparu rhoddion o £10,000 hyd yn hyn i’w rhoi at elusen Banc Bwyd Caerfyrddin a leolir yn Xcel Bowl ger Caerfyrddin sy’n rhoi cymorth uniongyrchol i rai mewn angen ar hyn o bryd.
Mae elusen Shelter Cymru wedi derbyn cyfraniadau o £6,000 tuag at eu gwaith yn cefnogi pobl mewn perygl o golli eu cartrefi neu sydd mewn llety dros dro o ganlyniad i’w sefyllfa ariannol.
