Gwasanaethau

Gwasanaethau

Mae YnNi Teg yn cynnig cefnogaeth broffesiynol ymarferol a gweithio mewn partneriaeth i fudiadau sydd â diddordeb o ran datblygu prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru.

Gwasanaethau

Mae YnNi Teg yn cynnig cefnogaeth broffesiynol ymarferol a gweithio mewn partneriaeth i fudiadau sydd â diddordeb o ran datblygu prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru.

Gyda’r gallu i dynnu oddi ar ffynhonnell fawr o wybodaeth, profiad, ac ymarfer gorau, rydym ni’n ceisio cyfannu a chydweithio â darparwyr ac asiantaethau gwasanaethau eraill, yn cynnwys Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud y mwyaf o lwyddiant eich prosiect chi.

Gall cefnogaeth oddi wrthym ni gynnwys:

Datblygiad ar Gam Cynnar

Ar gyfer sefydliadau sydd newydd ddechrau ac eisiau deall pa gamau y gallant eu cymryd, rydym yn cynnig:

  • Asesu dichonoldeb prosiect a hyfywedd ariannol
  • Sefydlu endid addas ar gyfer datblygiad
  • Paratoi cynlluniau datblygu
  • Sicrhau cyllid sbarduno

Rheoli Cyflawniad Prosiect

Pan fydd eich prosiect ar y gweill, byddwn yn rhoi cefnogaeth eang ar gyfer rheoli tasgau cyflawni o ddechreuad hyd at sicrhau pob hawl i ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys:

  • Trefniadau i gysylltu â’r grid
  • Trafodaethau cytundeb gyda pherchnogion tir
  • Cydsyniadau statudol
  • Caffael cytundebau adeiladu

Mae ein ffrydiau ni o incwm yn ein helpu i allu cadw costau ein gwasanaethau yn fforddiadwy er mwyn gallu cefnogi mwy o sefydliadau wrth gyflawni mwy o brosiectau.

Ewch i’n tudalen Prosiectau i ganfod mwy am y prosiectau y gwnaethom ni eu datblygu a’u cefnogi. 

Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i ehangu ein gwybodaeth am dechnolegau sy’n dod i’r golwg a dulliau arloesol o weithio.  Rydym ni’n dymuno gweithio gyda sefydliadau eraill hefyd i brofi a rhoi patrymau newydd o weithgarwch ar waith. Drwy gydweithio fel hyn, rydym ni’n ceisio canfod datrysiadau sydd ar flaen y gad a mireinio ein dulliau, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ystwyth ac yn barod i ymateb i’r dirwedd dechnoleg ac ynni cymunedol sy’n esblygu trwy’r amser.

Cysylltwch â ni am werthusiad dechreuol prosiect yn rhad ac am ddim.

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: