Posted on

Cwrdd â’r tîm: Jude

Dyma Jude, ein haelod mwyaf newydd o’r tîm

Beth yw eich rôl yn YnNi Teg?

Fel Rheolwr Datblygu, dwi’n cefnogi’r gwaith o gyflawni ein llif bresennol o brosiectau ac yn datblygu cyfleoedd newydd.  Dwi hefyd yn arwain ar ein gweithgareddau cyfathrebu. 

Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi

Dwi’n dod o dde Cymru, ac wedi astudio BSc ym Mhrifysgol Aberystwyth ac MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol De Cymru.   Dwi wedi bod yn gweithio ar brosiectau cynaliadwy amrywiol yng Nghymru ers dros 20 mlynedd yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys datblygu ffermydd solar ar raddfa fawr a chynllun gwres ardal.

A phan nad ydych chi yn y gwaith?

Y tu allan i’r gwaith, dwi’n mwynhau cerdded, rhoi cynnig ar grefftau newydd, a dwi’n un o sylfaenwyr clwb llyfrau lleol.  Fy hobi arall yw dechrau busnesau bach ecogyfeillgar a dwi wedi sefydlu a gwerthu sawl un.   Dwi hefyd yn caru cathod ac mae gen i ddau ohonyn nhw. 

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: