Posted on

Sgyrsiau Hinsawdd

Ymunodd Ynni Teg â’r rhaglen o Sgyrsiau Hinsawdd a gynhaliwyd drwy gydol mis Rhagfyr hyd at ddiwedd Ionawr 2024. Amcan y digwyddiadau hyn yw adeiladu ar Wythnos Hinsawdd Cymru ac annog sgyrsiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ynglŷn â sut y gallwn ni fynd i’r afael â newid hinsawdd mewn ffordd deg.

Eisteddodd ein Cyfarwyddwr Gweithredol Jon ar banel trafodaeth y Bengal Dragons Foundation yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, yn archwilio’r croestoriad sydd rhwng ffydd a chyfrifoldeb amgylcheddol, yn canoli ar foeseg amgylcheddol Islamaidd.

Posted on

Yn dweud pants i newid hinsawdd!

YnNi Teg underpants

YnNi Teg underpants
Image credit: Flashbulb Photography and Film

Yn y cynnig cyntaf o’i fath yn y byd ynni cymunedol, bydd buddsoddwyr newydd sydd yn ymuno ag YnNi Teg rhwng rŵan a Gorffennaf yr 8fed (diwrnod olaf Pythefnos Ynni Cymunedol) yn derbyn dilledyn sydd yn foesegol ac yn gynaliadwy: pâr o drôns neu nicer “ei bweru gan wynt” wedi eu cynhyrchu gan Greenfibres.com

Cawsom y syniad o gynnig y pants am ddim ar ôl darllen am y materion moesegol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu dillad, megis amgylchiadau gwaith y gweithwyr, y defnydd o blaladdwyr, a llygredd. Mae dillad isaf yn broblem arbennig gan ei fod yr un math o ddilledyn y mae pawb wastad am ei brynu yn newydd.

Mae’r dillad isaf cynaliadwy wedi eu gwneud o 95% cotwm ac yn dod mewn lliw du ar gyfer merched neu liw aubergine i ddynion, ac mewn gwahanol feintiau. Bydd “ei bweru gan wynt”, sef y slogan buddugol o’n cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol ddiweddar, wedi ei brintio arnynt yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dywedodd Jeremy Thorp, Cyfarwyddwr yn YnNi Teg: “Mae pawb wastad angen dillad isaf, felly gwnaethom benderfynu cynhyrchu rhai sydd yn foesegol, yn ymarferol ac yn ddoniol. Gall ein buddsoddwyr newydd ddweud pants i newid hinsawdd drwy ddangos eu cefnogaeth i ynni gwynt dan berchnogaeth gymunedol!”

Cofiwch mai nid y dillad isaf yn unig y byddwch yn ei dderbyn. Yn bwysicach fyth, bydd buddsoddwyr hefyd yn ennill graddfa enillion sydd wedi ei dargedu ar 5% yn flynyddol dros 20 mlynedd ar eu buddsoddiad, gyda lleiafswm buddsoddiad cyn lleied â £100, tra hefyd yn helpu tŵf ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gymunedol yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r llun uchod yn dangos y dillad isaf yn cael eu modelu gan ein cyfarwyddwyr: Dan, Jeremy a Rob.

Er mwyn buddsoddi ac i hawlio eich pâr chi eich hun, lawrlwythwch ein dogfen cynnig cyfranddaliadau ‘nawr.

A gadwech i ni wybod pa rai fyddech yn eu hoffi: Mae’r nicers du i ferched ar gael mewn meintiau XS, S, M, L neu XL, tra mae’r tronsiau bocsyr mewn lliw aubergine i ddynion ar gael mewn S, M, L ac XL.

Posted on

Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru, Cystadleuaeth Ffotograffiaeth!

YnNi Teg's wind turbine

YnNi Teg's wind turbine

Ydych chi eisiau helpu i fynd i’r afael â chynhesu byd-eang, am gefnogi cymunedau yng Nghymru a buddsoddi’n foesegol? Yna dyma’ch cyfle!

Rydym yn cynnig y cyfle i bobl ac i ysgolion yng Nghymru ddod yn rhan-berchennog ar gynllun ynni cymunedol YnNi Teg ac i ennill hyd at £250 mewn cyfranddaliadau drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ffotograff ‘Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru’. Bydd y prif enillydd yn derbyn £250 mewn cyfranddaliadau gydag 11 gwobr cydradd-ail o £100 yr un mewn cyfranddaliadau, naill ai iddynt eu hunain neu ar gyfer eu hysgol os ydynt dan 16 oed.

Nid oes rhaid i chi gyflwyno ffotograff nac ennill y gystadleuaeth er mwyn dod yn aelod, gall unrhyw un fuddsoddi a dod yn aelod yn YnNi Teg am cyn lleied â £100. Bydd unrhyw un sydd yn buddsoddi yn dod yn aelod cyfartal yn ein cymdeithas budd cymunedol ac rydym yn rhagweld enillion blynyddol o  5% ar gyfranddaliadau i’n haelodau. Am fwy o wybodaeth gwelwch ein Dogfen cynnig cyfranddaliadau os gwelwch yn dda, ac ymunwch â’r mudiad ar gyfer ynni glanach, gwyrddach, dan berchnogaeth gymunedol.

Byddwn yn edrych am ffotograffau o brosiectau yng Nghymru, sydd hefyd yn cyfateb ag un (neu fwy) o’r themâu canlynol:

  1. Ynni Adnewyddadwy a Phobl
  2. Ynni Adnewyddadwy a’r Amgylchedd
  3. Prosiect Ynni Cymunedol

Bydd 3 categori oed, sef 16 a throsodd, 12-15 ac 11 neu iau.

Noder, os gwelwch yn dda, y bydd y brif wobr o £250 yn cael ei gwobrwyo i’r lluniau hynny ar y thema ‘Prosiect Ynni Cymunedol’ yn unig, gan ein bod yn awyddus i hyrwyddo prosiectau dan berchnogaeth gymunedol yng Nghymru.

Os nad ydych yn sicr o leoliad y Prosiect Ynni Cymunedol agosaf i chi, cymerwch olwg ar fap Aelodau Ynni Cymunedol Cymru!

Cymryd rhan:

  • Er mwyn cyflwyno eich ffotograff(au), naill ai ebostiwch y llun i beca@communityenergywales.org.uk neu ei Drydaru i @YnniTeg gan ddefnyddio’r hashnôd #YnNiTegPhotoComp. Cofiwch nodi eich enw, oed, rhif ffôn, dyddiad y llun a ble tynnwyd y llun.
  • Gallwch gyflwyno gymaint ag y dymunwch o luniau.
  • Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob oedran. Os ydych dan 16 oed, yna gofynnwch i riant neu oedolyn addas yrru’r lluniau ar eich rhan.
  • Y brif wobr yw gwerth £250 o gyfranddaliadau ym Mhrosiect Gwynt Cymunedol YnNi Teg. Bydd un ar ddeg enillydd ail safle yn derbyn £100 o gyfranddaliadau yr un iddynt eu hunain (16+) neu ar gyfer eu hysgol (<16).
  • Bydd panel o feirniaid sydd yn cynnwys Cyfarwyddwyr YnNi Teg ac Ynni Cymunedol Cymru yn penderfynu ar y llun gorau gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi.
  • Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau fydd 07/09/2018
  • Am fwy o wybodaeth cysyllter â beca@communityenergywales.org.uk

Telerau ac Amodau:

  • Drwy gyflwyno llun rydych yn cytuno iddo gael ei bostio ar wefan, Twitter, Facebook ac Instagram YnNi Teg ac Ynni Cymunedol Cymru.
  • Efallai y bydd y llun(iau) hefyd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol i hyrwyddo ynni cymunedol gan naill ai YnNi Teg neu Ynni Cymunedol Cymru, gyda chydnabyddiaeth priodol.
  • Os hoffech dynnu’ch llun(iau) yn ôl ar unrhyw adeg, gallwch wneud hynny trwy anfon e-bost at beca@communityenergywales.org.uk.
  • Cyfrifoldeb y ffotograffydd, neu ei riant / warcheidwad, os yw’r llun yn cael ei gyflwyno ar ran plentyn, yw sicrhau bod unrhyw bobl sy’n cael eu hadnabod yn benodol yn y lluniau wedi rhoi eu caniatâd i ddefnyddio eu delwedd.
  • Bydd y wobr yn cael ei bostio i gyfeiriad yn y DU yn unig.
  • Sicrhewch bod gennych ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych yn mynd ar dir preifat

 

Posted on

Ynni ym Mryste yn cael ei gyflenwi gan wynt Cymreig

Gall trigolion ddod yn berchen ar ran mewn tyrbin gwynt cymunedol Cymreig sydd yn cyflenwi cwsmeriaid gwyrdd Bristol Energy.

Mae YnNi Teg wedi bod yn cyflenwi cwsmeriaid Bristol Energy, sydd dan berchnogaeth y cyngor, gyda thrydan glân a gwyrdd o’n tyrbin 900kW ers yr haf diwethaf. Erbyn hyn, gwahoddir trigolion Bryste i brynu cyfranddaliadau yn y prosiect hefyd.

Er i’r llywodraeth dynnu yn ôl ei chefnogaeth i wynt ar y tir, mae gwynt dan berchnogaeth cymunedol yn parhau i gynnig cyfle ardderchog i fuddsoddi. YnNi Teg yw un o’r prosiectau gwynt ar y tir olaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei danategu gan y Tariff Bwydo i Mewn.

Yn ddiweddar, aeth tîm o Bristol Energy i weld drostynt eu hunain sut yr oedd elw o brynu’r ynni yn helpu’r gymuned gyfagos yn Sir Gaerfyrddin. Daethant ynghyd â disgyblion ysgol gynradd gyfagos Meidrim, ysgol fechan gydag ond 22 o ddisgyblion, ar ymweliad i weld y tyrbin gwynt wrthi’n gweithio.

Fel y dywedodd Leo, disgybl 11 oed: “Yn hytrach na llygru’r aer ac achosi cynhesu byd eang, gall ynni adnewyddadwy helpu’r blaned. Bydd yn haws i anifeiliaid, i blanhigion ac i bobl barhau i fyw.”

Yn ogystal â gweithio gydag ysgolion lleol, bydd yr arian dros ben yn mynd i Ynni Cymunedol Cymru, Menter Gymdeithasol sydd yn helpu ac yn cefnogi grwpiau cymunedol ar draws Cymru i ddechrau prosiectau ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth cymunedol.

Dywedodd Jeremy Thorp, Cyfarwyddwr, YnNi Teg: “Mae’r pŵer gwynt rydym yn ei eneradu yn Nghymru yn helpu i gyflenwi trydan glân i gwsmeriaid Bristol Energy yn barod; Gall pobl Bryste hefyd gefnogi prosiectau ynni cymunedol, fel ein prosiect ni, yn uniongyrchol drwy fuddsoddi yn ein cynnig cyfranddaliadau ac elwa deirgwaith o’u buddsoddiad: gwneud gwahaniaeth i newid hinsawdd, enillion teg o 5% yn flynyddol ar gyfartaledd,  a generadu arian ychwanegol i gefnogi prosiectau ynni cymunedol tebyg yn y dyfodol.”

Dywedodd Simon Proctor, Rheolwr Cychwyniad, Bristol Energy: fod “Bristol Energy wedi ei sefydlu er mwyn ail-fuddsoddi elw yn ôl i mewn i’r gymuned leol, felly rydym yn falch iawn i fod yn gweithio gyda phrosiectau ynni cymunedol megis YnNi Teg, sydd yn defnyddio eu helw i sefydlu cronfa ynni gymunedol, yn ogystal â chefnogi prosiectau ynni cymunedol led-led Cymru”.

“Yn diweddar, gwahoddwyd rhai o’r tîm i gymryd rhan yn rhywfaint o’r gwaith mae YnNi Teg yn ei wneud gyda’r ysgol leol. Roeddem wrth ein bodd yn ymweld ac yn cael gweld yr effaith positif mae’r prosiect yn ei gael ar y gymuned leol.”

Mae’r tyrbin yn generadu digon o drydan adnewyddadwy i fod yn gyfwerth â’r swm i bweru 650 o dai cyffredin, a diolch i’r tywydd gwyntog mae wedi bod yn generadu dipyn go lew yn uwch na’r lefelau a ragwelwyd.

I lawrlwytho ein dogfen cynnig cyfranddaliadau, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Posted on

Cynnig nwyddau marchnata moesegol, cynaliadwy, unigryw

YnNi Teg underpants

YnNi Teg purple underpants

Fel cymhelliant arbennig, bydd pob cais ar gyfer cyfranddaliadau yn YnNi Teg fydd yn cael ei dderbyn cyn 8 Gorffennaf 2018 yn derbyn eitem sydd yn nwydd moesegol a chynaliadwy, sef pâr o drôns/nicer o ffynhonnell gan gyflenwr ‘best buy’ Ethical Consumer,  Greenfibres.com.

Yn ddiweddar, tynnodd Ethical Consumer sylw at broblemau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu dillad, gan amlygu materion megis amgylchiadau ar gyfer gweithwyr, y defnydd o blaladdwyr, a llygredd. Mae dillad isaf yn broblem arbennig, gan ei fod yn un math o ddilledyn yr ydych angen ei brynu yn newydd, ble mae’n bosib prynu dillad allanol o siopau elusen a.y.y.b. Hyd yn hyn, mae YnNi Teg wedi ymatal rhag cynhyrchu nwyddau marchnata oherwydd, yn aml, nwyddau o’r fath yw un o’r euogion am greu sothach diangen i’w daflu i ffwrdd, ond rhoddodd yr erthygl Ethical Consumer yma y syniad i ni ar gyfer creu nwyddau marchnata moesegol, cynaliawy ac unigryw. Rydym felly wedi dod ynghyd â chyflenwr ‘best buy’ Ethical Consumer, Greenfibres, i gynhyrchu tronsiau a nicers “Pwerwyd gan y Gwynt” YnNi Teg.

Fel cymhelliant arbennig, bydd pob cais dderbyniwn cyn ddiwedd Ebrill yn gymwys am bâr o drôns/nicer YnNi Teg yn rhad ac am ddim. Rydym yn dal wrthi’n cael gafael ar y cyflenwadau ac yn trefnu’r printio, ond bydd pob cais o heddiw ymlaen yn gymwys (byddwn yn cysylltu â chi i ddarganfod eich gofynion). Mae fersiynau dynion a merched ar gael.

Byddwch, yn fuan, yn gallu prynu parau ychwanegol drwy ein gwefan ynniteg.cymru

trons YnNi Teg
Image credit: Flashbulb Photography and Film

Posted on

Diweddariad Cronfa Gymunedol YnNi Teg, Ionawr 2018

Jeremy Thorp at Ysgol Meidrim

Mae nifer o resymau dros gefnogi a dod yn aelod yn YnNi Teg, ac un o‘n hoff resymau yw’r cymorth gall ein harian dros ben ei ddarparu ar gyfer sefydliadau eraill sydd o fewn golwg i’n tyrbin.

Mae ychydig dros dri mis erbyn hyn ers i ni lansio ein cynnig cyfranddaliadau, ac yn y cyfnod hwnnw rydym wedi derbyn ceisiadau gan dri grŵp gwahanol am grant o’n cronfa gymunedol. Roedd ceisiadau y sefydliadau hyn i gyd yn llwyddiannus ac fe fyddant  yn dechrau gwaith ar eu prosiectau priodol yn ystod yr wythnosau i ddod.

Dyma ychydig o wybodaeth am bob un o’r ceisiadau rydym wedi eu cymeradwyo.

Ysgol Meidrim

Mae Ysgol Meidrim yn ysgol gynradd fechan yn Sir Gaerfyrddin gydag 20 o ddisgyblion. Cysylltodd yr ysgol ag YnNi Teg am grant i helpu tuag at adeiladu ardal ddysgu y tu allan ar gyfer ei disgyblion Cyfnod Sylfaen ac i amgáu tir ar gyfer y ‘dosbarth awyr agored’ yma, i helpu i adeiladu tŷ gwydr, ac i ddatblygu sgiliau corfforol disgyblion yn yr awyr agored.

Adeiladwyd yr ysgol dros ganrif yn ôl ac mae ganddi bedair ystafell ddosbarth, tair o’r rhain y tu mewn ac un y tu allan. Mae’r ysgol yn bwriadu defnyddio’r grant dderbyniwyd gan YnNi Teg i adeiladu dosbarth awyr agored arall, gyda mynediad uniongyrchol o ystafell ddosbarth  y Cyfnod Sylfaen, ar gyfer y disgyblion Cyfnod Sylfaen. Bydd yr ardal amgaeëdig hon yn darparu amgylchedd awyr agored fydd yn ddiogel i’r disgyblion ar gyfer astudio a chwarae.

Mae’r ysgol hefyd wedi gofyn am gymorth tuag at brynu deunyddiau i adeiladu ffrâm ar gyfer tŷ gwydr. Bydd y plant wedyn yn adeiladu’r tŷ gwydr drwy ddefnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu, ac yn tyfu planhigion a llysiau fydd yn cael eu gwerthu i rieni a chefnogwyr yr ysgol er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau entrepreneuriaeth y plant.

Bydd rhan olaf y prosiect yn gweld maes chwarae yn cael ei adeiladu ar dir yr ysgol, gydag offer dringo fydd yn helpu i ddatblygu sgiliau corfforol, academaidd, cymdeithasol a datrys-problemau y plant.

Cymdeithas Gymunedol Llanwinio

Mae Cymdeithas Gymunedol Llanwinio yn cynrychioli nifer o grwpiau cymunedol ym mhlwyf Llanwinio, yn cynnwys Sefydliad y Merched, Merched y Wawr, Y Clwb Bowlio Dan Do a’r Clwb Ffermwyr Ifanc.

Mae cais Cymdeithas Gymunedol Llanwinio ar gyfer cyllid i wneud gwaith atgyweirio ar Neuadd Llanwinio, adnodd cymunedol sydd yn eiddo i’r grŵp wedi iddynt godi digon o arian yn lleol i brynu’r adeilad pan roddodd grŵp eglwys y plwyf lleol ef ar werth yn 2017.

Bydd yr atgyweiriadau i’r neuadd, sydd yn cael ei defnyddio gan nifer o wahanol grwpiau cymunedol ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, yn cynnwys rhoi to newydd ar y gegin ac atgyweirio ac ail-addurno y mannau hynny ble mae’r gollyngiadau o’r to wedi achosi difrod y tu mewn i’r adeilad. Bydd cyfleusterau toiled i’r anabl yn cael eu hadeiladu, bydd cyfleusterau’r gegin yn cael eu hehangu i greu caffi / siop ble gall pobl alw i mewn, bydd cyfleusterau storio a swyddfa newydd yn cael eu hadeiladu, ac fe osodir band llydan ar gyfer defnydd y swyddfa a’r gymuned.

Neuadd Eglwys Meidrim

Mae’r neuadd eglwys ym Meidrim yn ased cymunedol sydd â gofodau ar gyfer perfformio a chynulleidfa, cegin a chyfleusterau toiled.

Mae systemau gwresogi a thrydanol yr adeilad yn hen ac angen eu gwella ar fyrder, fydd yn golygu ailweirio, panel dosbarthu trydan newydd, paneli gwresogi a thermostat newydd, a goleuadau newydd.

Bydd gwneud y gwaith hwn yn help i sicrhau bod yr adeilad yn cydmffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch ac yn gallu parhau i fod yn adnodd cymunedol gwerthfawr.

Os hoffech ddarganfod mwy am Gronfa Gymunedol YnNi Teg, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Posted on

Enillwch bâr o drôns (neu nicer)!

Allwch chi ein helpu gydag ychydig o ymchwil marchnata? Rydym wrthi’n cynllunio ymarferiad marchnata ar gyfer Ynni Teg Cyf – cymdeithas ynni cymunedol Gymreig sydd newydd adeiladu tyrbin gwynt 900kW.

Rydym yn gwerthu cyfranddaliadau yn y gymdeithas ar hyn o bryd, ac wrthi’n cynllunio syniad marchnata newydd ar gyfer hyrwyddo’r cynnig cyfranddaliadau yma. Bydd hyn yn cynhyrchu rhywbeth eithaf unigryw, nwyddau wedi eu cynhyrchu yn foesegol yr ydych eu hangen ac y byddwch yn eu defnyddio.

Trafodwyd dillad isaf mewn erthygl ddiweddar yn Ethical Consumer (darllen hanfodol i bawb), mae’n rhywbeth mae pawb angen ei brynu, ac mae’r rhan helaeth yn golygu defnydd gormodol o blaladdwyr, llafur ecsbloetiol, dinistro cynefinoedd a llygru dŵr. Bwriadwn gynhyrchu tronsiau a nicers (i ddynion ac i ferched) drwy gyflenwyr mae Ethical Consumer yn eu cymeradwyo fel rhai sydd yn ymarfer arfer orau y diwydiant. Byddwn yn rhannu rhai gyda’r ceisiadau am gyfranddaliadau, ac hefyd yn eu cynnig ar werth. (Fyddan nhw yn dod yn eitemau casgladwy ac yn newid dwylo am arian mawr ar Ebay?)

Gan fod Ynni Teg yn gweithredu tyrbin gwynt, mae digon o gyfle ar gyfer mwyseiriau doniol. Ein cwestiwn i chi ydi: A fyddech chi yn gwisgo dillad isaf wedi eu printio gyda’n logo ni a neges yn gysylltiedig â gwynt tebyg i’r rhai isod?

YnNi Teg pants design YnNi Teg pants design YnNi Teg pants design
[divider]

Pa un o’r brawddegau isod fyddech chi yn eu dewis: (neu mae rhyddid i chi gynnig rhai gwell na’r rhain. Os byddwn yn defnyddio eich brawddeg chi fe gewch bâr o drôns / nicer am ddim).

Dwi’n caru pŵer gwynt
Pwerwyd gan y gwynt
Rwyf yn gyd-berchennog ar eneradur gwynt 900kW
900kW o bŵer gwynt cynaliadwy

A cofiwch hefyd bod ein cynnig cyfranddaliadau yn dal yn agored. Gwnewch gais drwy ein gwefan ynniteg.cymru os gwelwch yn dda. (drwy wneud cais rwan gallwch hawlio pâr o drôns neu nicer os bydd ein hymchwil marchnata yn ein perswadio i symud ymlaen).

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud eich awgrymiadau

[formidable id=”4″]

Posted on

YnNi Teg yn ennill gwobr cynaliadwyedd clodfawr

YnNi Teg receiving Sustain Wales award

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod YnNi Teg wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Cynnal Cymru, 2017.

Mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar Dachwedd 30ain, cafodd YnNi Teg eu cyflwyno gyda’r wobr am Fenter Gymdeithasol Gynaliadwy.

Roedd y seremoni wobrwyo, oedd dan arweiniad yr actor Rhodri Thomas, yn dathlu ymdrechion sefydliadau ac unigolion o amgylch Cymru sydd yn gwneud gwaith anhygoel o helpu i gyflawni cenhadaeth Cynnal Cymru o wneud Cymru yn genedl gynaliadwy.

Roedd cyfanswm o 27 yn y rownd derfynol, a’r rhestr enillwyr fel a ganlyn:

  • Busnes Cynaliadwy y Flwyddyn – Griffiths
  • Grŵp Cymunedol Cynaliadwy – Care Share and Give Sir Benfro
  • Gwobr Prosiect Cynaliadwy Sector Gyhoeddus – Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda Greenstream Flooring, Rype Office Furniture ac Orangebox
  • Ysgol Gynaliadwy – Ysgol Gynradd Thornhill
  • Menter Gymunedol Gynaliadwy – YnNi Teg
  • Adeilad / Lleoliad Cynaliadwy – Down to Earth
  • Pencampwr Cynaliadwyedd – Phil Williams
  • Sefydliad Addysg Uwch / Addysg Bellach Cynaliadwy – Pharmabees
  • Ymarfer Cynaliadwy yn y Celfyddydau, Diwylliant a Chwaraeon – ‘It Doesn’t Have to be That Way – Breaking the Cycles of Abuse and Control’, Prifysgol Glyndŵr
  • Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig – Nigel a Joyce Gervis, Tŷ-Mawr Lime

Mae wir yn anrhydedd i dderbyn gwobr o’r fath fri mor fuan wedi lansio YnNi Teg, ac fe hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i bleidleisio i ni.

 

Posted on

Gwnewch eich bil trydan yn garbon niwtral gydag YnNi Teg

Carbon neutral cup of tea
Image credits: Cup of tea: Freeimages.com | Stamp: 123RF

Oeddech chi yn gwybod y gall prynu cyfranddaliadau YnNi Teg eich helpu i wrthbwyso eich hôl troed carbon o’ch defnydd trydan?

Am bob £1 yr ydych yn ei roi i mewn i gyfranddaliadau yn ein tyrbin YnNi Teg, byddwn yn generadu ychydig dros 1 kWh o drydan carbon sero y flwyddyn. Roedd cyfanswm ein costau adeiladu ychydig o dan ddwy filiwn o bunnoedd, a disgwyliwn eneradu ychydig dros ddwy filiwn o kWh y flwyddyn.

Felly, os prynwch £1000 o gyfranddaliadau, mae hynny yn cyfateb i fod yn berchen ar eich tyrbin gwynt eich hun yn cynhyrchu 1000 kWh y flwyddyn. Mae hynny tua 38,000 cwpaned o de, neu tua 1,800 o filltiroedd mewn car trydan.

Y cyfartaledd cenedlaethol am ddefnydd o drydan mewn un tŷ mewn un flwyddyn yw 3,300 kWh, ond os ydych yn darllen hwn mae’n debyg eich bod yn defnyddio trydan mewn modd mwy economaidd na’r cyfartaledd cenedlaethol. Yn dibynnu ar dreuliant eich cartref, gallasai 1000 o gyfranddaliadau ganslo allan hanner y carbon o’r trydan rydych yn ei ddefnyddio yn y cartref.

Cymerwch olwg ar eich bil trydan i ddarganfod beth yw eich treuliant blynyddol. Os byddwch yn prynu y nifer hwnnw o gyfranddaliadau yn YnNi Teg, byddwch wedi gwrthbwyso eich hôl troed carbon o’ch defnydd o drydan.

Rydym yn gwybod bod gwrthbwyso yn fater dadleuol, ond mae hynny oherwydd nad oes sicrwydd yn aml bod y cynilion carbon hynny yn mynd i ddigwydd. Ond gydag YnNi Teg, gallwch weld yn union beth mae eich arian yn ei wneud a beth y bydd yn ei wneud dros yr 20 mlynedd nesaf.

Ar ben hynny, dylech dderbyn enillion o 5%, ar gyfartaledd, ar eich cyfranddaliadau – felly, am unwaith, dewis yr opsiwn moesegol yw’r opsiwn ariannol synhwyrol hefyd!

Posted on

Diweddariad aelodau, Rhagfyr 2017

looking through a rolled-up newspaper
image credit

Mae’r tyrbin wedi ei gomisiynu ers pedwar mis erbyn hyn, a’r argaeledd a’r allbwn yn edrych yn addawol hyd yn hyn. Mae’r data o’r pedwar mis yma fel a ganlyn:

[typography font=”Ubuntu” size=”14″ size_format=”px”]

mis kWh argaeledd Perfformiad o’i gymharu â’r targed P50 Cyfartaledd cyflymder gwynt misol o’i gymharu â’r cyfartaledd dros 10 mlynedd (data cenedlaethol y DU)
Awst – 17 78,122 92.6% 49% 102%
Medi – 17 162,134 98.3% 94% 98%
Hydref – 17 193,137 98.6% 104% 113%
Tachwedd – 17 171,285 99.8% 86%

[/typography]

Dengys y data yma bod y tyrbin wedi cael dechrau da, bod cyfnod y problemau cychwynnol wedi bod yn un byr iawn ac mai dim ond ychydig iawn o argaeledd a gollwyd, hyd yn oed ym mis Awst, sef y mis comisiynu (comisiynwyd y tyrbin ar 2 Awst). Mae hyn hyd yn oed yn cynnwys y cyfnod yn syth wedi’r dyddiad comisiynu swyddogol pan roedd EWT yn cynnal nifer o brofion comisiynu.

Mewn newyddion arall, enillon ni y wobr am y Fenter Gymdeithasol Gynaliadwy orau yng ngwobrau Cynnal Cymru ar 30 Tachwedd. Mynychodd Rob y digwyddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd gan gasglu y wobr i ni.

Ymwelodd Jeremy Thorp, yng nghwmni Wyn Roberts, ein asiant marchnata, a chriw ffilmio, ag ysgol gynradd ym Meidrim ar 21 Tachwedd. Cafodd yr 11 plentyn yn y dosbarth uchaf wers fer amdan y tyrbin gydag ymweliad â’r safle i ddilyn. Yn y prynhawn, cynorthwyodd Jeremy a Wyn y plant i adeiladu dau fodel o dyrbinau drwy ddefnyddio pecyn adeiladu. Roedd yr ymatebion gan y plant (a’r athrawon) yn bositif iawn.

Rydym wedi derbyn pum cais yn ymateb i’n cais am ddiddordeb ym £15,000 cychwynnol y gronfa gymunedol yr ydym yn barod i’w rannu o fewn y gymuned leol. Mae’r bwrdd wedi ymgysylltu gyda’r cyngor cymuned ym Meidrim ac wedi cytuno i benderfynu sut i rannu’r gronfa hon drwy gyd-bwyllgor yn cynnwys aelodau cyngor Meidrim ac aelodau bwrdd Ynni Teg. Rydym yn gobeithio penderfynu ar hyn yn fuan iawn er mwyn ein galluogi i rannu’r arian hwn o fewn y gymuned cyn bo hir.

Rydym wedi cynnwys opsiwn ychwanegol ar gyfer pobl sydd yn dymuno prynu cyfranddaliadau – rydym newydd ei gwneud yn bosib i rhywun brynu cyfranddaliadau yn rhodd i rhywun arall – yr anrheg moesegol perffaith. Mae dolen ar wahân ar y wefan ar gyfer hyn, a bydd y derbynnydd yn cael tocyn anrheg deniadol y gallent ei ddefnyddio i gofrestru eu haelodaeth a’u cyfranddaliadau. Byddwn yn hyrwyddo’r opsiwn yma o fewn ein sianeli marchnata amrywiol wrth arwain at y Nadolig.

Mae’r cyfanswm cyfranddaliadau bellach yn £164,750, parhewch i ddweud wrth eich cyfeillion a’ch teulu amdan y cynnig cyfranddaliadau, os gwelwch yn dda. Os ydych yn defnyddio Facebook neu Twitter, byddwn yn ddiolchgar pe buasech yn hyrwyddo ac yn rhannu ein trydaru a’n pyst Facebook.