Posted on

Rydym ni’n recriwtio

Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltiad

Lleoliad: De Cymru (Caerdydd a Chasnewydd)
Oriau: Rhan-amser (30 awr/wythnos, wythnos o 4 diwrnod hyblyg)
Cyflog: £30,000 (yn ôl yr un gyfradd, cyfwerth ag amser llawn £37,500)
Cytundeb: Cyfnod penodol tan 28ain Chwefror 2027

A ydych chi’n frwdfrydig ynglŷn â phobl, galluogi cymunedau ac ynni glân? Mae Ynni Teg ar genhadaeth i ddod ag ynni fforddiadwy, ym meddiant y fro i gymunedau yng Nghymru ac mae angen i ni fod â Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltiad ar gyfer helpu i wneud i hynny ddigwydd!

Fe fyddwch chi’n arwain gwaith maes ar gyfer prosiect ymchwil a datblygiad newydd, gan weithio gyda’r Bengal Dragons Foundation i ymgysylltu â chymunedau trefol amrywiol yng Nghaerdydd a Chasnewydd.  

O fod yn trefnu ymweliadau â chartrefi a gweithio gyda thrigolion lleol hyd at ddylunio ymgyrchoedd Cysylltiadau Cyhoeddus a rheoli’r berthynas â rhanddeiliaid, fe fyddwch chi wrth galon prosiect a allai drawsnewid dyfodol ynni cymunedau.  Hefyd, fe fyddwch chi’n arolygu tîm bychan ac yn sicrhau y bydd y prosiect yn gynhwysol, yn ddylanwadol ac yn barod ar gyfer y cam nesaf o’i weithrediad.

Rhesymau i Ymuno â Ni

  • Wythnos waith hyblyg 4-diwrnod—am fod cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yn bwysig
  • Cyfle i fod â dylanwad gwirioneddol wrth herio anghydraddoldeb ynni
  • Swydd y bydd eich llais a’ch syniadau yn llunio dyfodol ynni cymunedol
  • Byddwch yn rhan o dîm bychan sy’n gyfeillgar a chefnogol

Gwnewch Gais Nawr!

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i jude@ynniteg.cymru

Dyddiad cau: Dydd Llun 14ydd Ebrill canol dydd

Ymunwch â’r mudiad am ddyfodol ynni glanach a thecach!

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: