Amdanom ni
Mae Ynni Teg yn datblygu mentrau ynni cynaliadwy cymunedol i helpu i wireddu ein gweledigaeth ni o ddyfodol ynni carbon isel, cost isel i Gymru.

Amdanom ni

Mae Ynni Teg yn datblygu mentrau ynni cynaliadwy cymunedol i helpu i wireddu ein gweledigaeth ni o ddyfodol ynni carbon isel, cost isel i Gymru.
Ein Cenhadaeth
‘YnNi Teg yw’r datblygwr seilwaith ynni glân ym mherchnogaeth y gymuned ar gyfer Cymru gyfan, sy’n gweithio gyda mudiadau lleol er mwyn galluogi cymunedau i fod â mwy o reolaeth ar ein hynni i gael Cymru sy’n fwy gwydn.’
Beth yw ynni cymunedol?
Ystyr hanfodol ynni cymunedol yw galluogi – annog pobl i ddod at ei gilydd a rhoi’r gallu iddyn nhw gymryd camau i sicrhau bod y seilwaith ynni sy’n eu gwasanaethu nhw’n cwrdd â’u hanghenion yn awr ac yn y dyfodol.
Mae hyn yn cynnwys galluogi cymunedau i –
- feddu ar y gallu i gynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddadwy cost isel
- arbed ynni a chostau gan hynny.
Ffurfir cwmnïau ynni cymunedol fel arfer yn fentrau cymdeithasol o ryw fath, sydd ag amcan yn aml o ddarparu buddiannau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn fwy eang – gan fagu hyder, datblygu sgiliau, cadw arian yn yr economi leol, cefnogi busnesau a chreu cyfleoedd am swyddi yn lleol, y mae pob un o’r pethau hyn yn helpu i wneud ein cymunedau yn fwy gwydn.

Ein Hanes
Cafodd YnNi Teg ei sefydlu gan Ynni Cymunedol Cymru yn 2017 yn endid annibynnol ar gyfer perchnogi a rhedeg tyrbin gwynt 900kW ym Mwlchgwynt gerllaw Meidrim, Sir Gaerfyrddin a gomisiynwyd ym mis Awst 2017.
Mae incwm dros ben o’r tyrbin yn mynd at gronfa budd cymdeithasol leol ac yn darparu cefnogaeth i weithgareddau Ynni Cymunedol Cymru hefyd.
Ers hynny, mae ein huchelgais wedi cynyddu. Rydym ni’n cefnogi tîm o staff proffesiynol erbyn hyn i ymgymryd â’n gwaith datblygu gyda’n prosiectau ynni adnewyddadwy ac ar gyfer cefnogi grwpiau eraill hefyd ledled Cymru drwy ein Gwasanaethau Datblygu.

Ein Strwythur
Menter gymdeithasol yw YnNi Teg Cyfyngedig (Fair Energy Ltd) sy’n cael ei rhedeg fel cwmni er elw, ond mae ei helw yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno a darparu buddiannau cymunedol gwirioneddol.
Am ein bod ni’n Gymdeithas Budd Cymunedol, ein haelodau yw ein cyfranddeiliaid hefyd. Mae cyfranddaliadau yn costio £1 yr un, ac mae aelodau yn ennill llog ar eu buddsoddiadau (ac nid difidendau). Heb ystyriaeth i nifer y cyfrannau a ddelir, mae gan bob aelod un bleidlais, sy’n caniatáu cyfranogaeth ddemocrataidd.

Rheolau a Llywodraeth
Llywodraethir YnNi Teg gan grŵp o gyfarwyddwyr gwirfoddol yn unol â chyfres o reolau a gofrestrir gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Rheolir y busnes o ddydd i ddydd ar ran y bwrdd gan Gyfarwyddwr Gweithredol a delir. Gellir lawrlwytho ein rheolau yma.

Budd Cymunedol
Mae ein Rheolau yn nodi mai amcanion y Gymdeithas fydd “cynnal unrhyw fusnes er budd y cymunedau sy’n cynnwys adeiladu a rhedeg peiriannau ynni adnewyddadwy dan arweiniad y gymuned”. Rydym ni’n ceisio cyflawni’r amcanion mewn dwy ffordd yn fras –
- Wrth ddatblygu ein prosiectau ein hunain sy’n cynnig cyfleodd ar gyfer perchnogaeth leol, refeniw dros ben i gronfeydd budd cymunedol a, lle bo hynny’n bosibl, llai o gostau hirdymor i ddefnyddwyr lleol.
- Wrth helpu mudiadau eraill yng Nghymru i ddatblygu eu prosiectau ynni adnewyddadwy a fydd yn cynnig buddiannau tebyg i’w cymunedau nhw. Rhoddir y cymorth hwn gan weithgareddau ein Tîm Datblygu.
Gweler rhagor o wybodaeth am ein cronfeydd budd cymdeithasol yma.

Cydweithrediad ac Amcanion i’r Dyfodol
Rydym ni’n cadw cysylltiadau cryf ag Ynni Cymunedol Cymru, gan gefnogi ei genhadaeth i hybu ein sector ni drwy gefnogaeth weithredol ac ariannol fel ei gilydd. Y tu hwnt i’n prosiectau ein hunain, rydym ni’n falch o weithio ar y cyd â mudiadau eraill a’n bwriad ni yw gwneud hynny i raddau mwy yn y blynyddoedd i ddod, a helpu i feithrin y sector ynni cymunedol a’r economi werdd yng Nghymru.
Wrth wneud felly, rydym ni’n croesawu’r gefnogaeth oddi wrth asiantaethau Ynni Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac, yn ein tro, rydym ninnau’n bwriadu gweithio gyda nhw i helpu i gyrraedd dyheadau Llywodraeth Cymru i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050.
Darllenwch ragor am y Gwasanaethau yr ydym ni’n eu cynnig.