2 Swyddog Prosiect – i helpu wrth ddod ag ynni glân, fforddiadwy i gymunedau dinesig.
Lleoliad: De Cymru (Caerdydd a Chasnewydd)
Oriau: Rhan amser (22.5 awr/wythnos)
Cyflog: £29,000 (Cyfwerth ag amser llawn). £19,662 yn ôl yr un gyfradd
Cytundeb: Tymor penodol hyd 28ain Chwefror 2027
Mae Ynni Teg yn arwain prosiect o ddwy flynedd i helpu i ddatblygu model newydd ar gyfer ynni cymunedol mewn ardaloedd dinesig — gan helpu aelwydydd i leihau biliau, lleihau carbon a chymryd rheolaeth ar eu hynni i’r dyfodol.
Rydym ni’n chwilio am ddau unigolyn brwdfrydig, cymdeithasgar i fod yn Swyddogion Prosiect yn ein tîm ni. Fe fyddwch chi dangos wyneb cyfeillgar i’r prosiect ar lawr gwlad — gan ymweld â chartrefi, ymgysylltu â’r trigolion, cynnig cyngor sylfaenol ynglŷn ag ynni, a’u cefnogi nhw i gymryd rhan.
Rhoddir hyfforddiant o ran rhoi cyngor ynglŷn ag ynni.
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn dweud wrthym ni pam fyddech chi’n falch o gael gweithio gyda ni a pha mor addas yw eich sgiliau a’ch profiad i’r hyn yr ydym ni’n ei chwilio amdano.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai sydd â dealltwriaeth gref o’r gymuned Fwslimaidd.
Gwnewch Gais Nawr
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i info@ynniteg.cymru
Dyddiad cau: 25th Gorffennaf 2025
Angen help i lunio cais?
Dyma dempledi defnyddiol i’ch helpu i baratoi CV a llythyr eglurhaol.
