Ein bwrdd

Ein bwrdd

Llywodraethir YnNi Teg gan fwrdd o gyfarwyddwyr gwirfoddol a etholir sy’n adrodd i’n haelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Ein bwrdd

Llywodraethir YnNi Teg gan fwrdd o gyfarwyddwyr gwirfoddol a etholir sy’n adrodd i’n haelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Mae’r bwrdd yn dilyn cyfres o Reolau a gymeradwyir ac a gofrestrir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).  Mae’r Rheolau hyn yn cynnwys cymhwysedd aelodaeth, ymddygiad y bwrdd a chyfarfodydd cyffredinol, nifer y cyfarwyddwyr, a mwy. Prif swyddogaeth y bwrdd yw sicrhau bod y gymdeithas yn cyflawni ei dibenion cymdeithasol. Gallwch lawrlwytho copi o’n Rheolau ni o’r dudalen Cynnig Cyfranddaliadau.

Rydym wedi ein cysylltu ag Ynni Cymunedol Cymru drwy aelodaeth a rennir ar y byrddau.

Bwrdd cyfredol y cyfarwyddwyr

Grant Peisley

Grant Peisley – entrepreneur cymdeithasol, ymarferydd lleoliaeth ac ymgynghorydd cymunedau cynaliadwy. Ef yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) sydd wedi helpu dros 60 o grwpiau cymunedol i wireddu eu prosiectau ynni ac sydd wedi cael ei gydnabod gan Gwobrau Ynni Gwyrdd Cymru, Gwobrau Adfywio Cymru, Gwobrau Cynnal Cymru, a Gwobrau Academi Cynaliadwy Cymru am ei waith ym maes Ynni Cymunedol am ddwy flynedd yn olynol. Mae Grant hefyd yn Gyfarwyddwr ar YnNi Newydd.


Robert Proctor

Mae Rob yn amgylcheddwr o argyhoeddiad gyda 17 o flynyddoedd o brofiad yn gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i wella’r lleoedd y mae pobl yn byw a bod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.  Fe fu ef yn llwyddiannus wrth gyflawni ystod o raglenni cymunedol.  Yn arbenig, fe sefydlodd a chyflawnodd raglen fuddugol Adfywio Cymru, a rhedeg Ynni Cymunedol Cymru am rai blynyddoedd ac mae ef yn Gyfarwyddwr sefydlol i nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy yn cynnwys YnNi Teg sydd wedi ennill gwobrau lluosog.  Yn ddiweddar, fe sefydlodd fenter gardd farchnad gyda’i wraig o’r enw Tir Awen sy’n cyflenwi 50 o focsys o lysiau a dyfwyd yn adfywhaol bob wythnos i aelwydydd ac mae ef wedi ymgymryd â chwrs Meistr yn rhan amser yng Nghanolfan Technoleg Amgen, gan ddatblygu ei wybodaeth ym maes cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yn lleol.


Mari Arthur

Mari oedd cyfarwyddwr Cynnal Cymru – tan 2020, ac mae’n Bartner yn Afallen LLP ar hyn o bryd, yn gweithio gyda sefydliadau a busnesau ledled Cymru i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae Mari yn arbenigo mewn cefnogi cwmnïau sydd â chynlluniau a gweithdrefnau cynaliadwy ac amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar gwsmeriaid mewn sefyllfaoedd bregus a pherthynas ehangach â dinasyddion. Mari oedd cadeirydd Panel Ymgynghorol Amgylcheddol Annibynnol Dŵr Cymru nes Ionawr 2022, ac mae’n aelod o’u Grŵp Ymgysylltu Cwsmer.

Mae Mari ar fyrddau Warm Wales, Ynni Sir Gâr ac Ynni Teg; mae’n llywodraethwr yn Ysgol Trimsaran ac Ysgol Gyfun y Strade Llanelli. Mae Mari yn gobeithio gwneud Cymru’n fwy cynaliadwy drwy gefnogi cymunedau drwy eu grymuso i drin materion amgylcheddol ac economaidd ar lawr gwlad.


John Chown

Cyfrifydd siartredig cymwysedig yw John ac roedd yn gyfarwyddwr i Williams Ross Cyfyngedig yng Nghaerdydd am 19 mlynedd tan fis Mehefin 2022, ac mae’n ymgynghorydd i’r cwmni erbyn hyn. Mae ef wedi dal swyddi uwch mewn nifer o wahanol gwmnïau cyfrifyddion siartredig ac roedd ganddo swyddogaeth broffesiynol yn narpariaeth gwasanaethau aswiriant, cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i ystod eang o bobl a sefydliadau, ond yn benodol o ran y sector nid-er-elw, sy’n cwmpasu elusennau, undebau credyd a sefydliadau gwirfoddol eraill.

Dros gyfnod o  25 mlynedd, mae ef wedi bod yn aelod gwirfoddol ar fyrddau cymdeithasau tai ac eraill, yn gyfredol –

Aelod ar Fwrdd:

  • Cwmpas (Canolfan Gydweithredol Cymru gynt) Cadeirydd cyfredol y Pwyllgor Risg ac Archwilio.
  • Grŵp Cartrefi Cymunedol Cynon Taf ers 2018. Cadeirydd y Pwyllgor Risg ac Archwilio.
  • Down to Zero (ers ei sefydlu ym mis Mawrth 2020), is-grŵp newydd ei sefydlu o Gartrefi Cynon Taf.

Ymddiriedolwr:

  • A Thrysorydd Sefydliad Bevan ers mis Mawrth 2020.
  • Mentro i Freuddwydio (ers ei ddechreuad ym mis Awst 2020), sef elusen yng Nghymru sydd wedi ymroi i lesiant emosiynol cleifion a phobl â chyflyrau iechyd cronig.

Richard Clay

Cafodd Richard ei benodi i fwrdd Ynni Cymunedol Cymru yn 2018 ac mae ef yn cefnogi ei waith ar bolisi a strategaeth.Mae gan Richard brofiad eang ar amrywiaeth o bynciau datblygu polisi, dadansoddi a chyflenwi oherwydd ei yrfa 25 mlynedd yn y sector ynni. Treuliodd ran gynnar ei yrfa yn Ofgem lle gweithiodd gyda rheoleiddio rhwydweithiau, rheoli cynlluniau adnewyddadwy a fframwaith newydd i reoleiddiol gridiau ar y môr o’r sector gwynt oddi ar y môr a oedd yn dod i’r amlwg. Yn fwy diweddar, fe weithiodd yn Ystâd y Goron, gan arwain ar bolisi ynni a rheoleiddio i gefnogi ynni adnewyddadwy ar y môr, gan feithrin perthynas ar gyfer cydweithio ag ystod a randdeiliaid y sectorau cyhoeddus a phreifat ledled y DU. Ynni adnewyddadwy cymunedol yw ei brif ddiddordeb a’r buddion y gall y prosiectau lleol hyn eu darparu i gymunedau ledled Cymru. Bu’n gyfarwyddwr yn Ynni Cymunedol Cymru ers 2018 ac mae ar gamau cynnar sefydlu presenoldeb ynni cymunedol yng Nghasnewydd. Economydd yw Richard o ran ei gefndir ac mae’n astudio ar gyfer gradd MSc Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen.

 

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: