Posted on

Cwrdd â’r tîm: Jon

Dyma Jon, Cyfarwyddwr Gweithredol

Beth yw eich rôl yn YnNi Teg?

Fel y Cyfarwyddwr Gweithredol, dwi’n helpu ein haelodau bwrdd gwirfoddol i ddatblygu a rheoli ein hadnoddau a’n gweithgareddau i gyrraedd nodau’r gymdeithas ac, yn allanol, yn ceisio hyrwyddo datblygiad ehangach y sector ynni cymunedol.

Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun

Ar ôl ychydig flynyddoedd ansicr ar ddisberod o gwmpas y wlad yn symud o un swydd i’r llall, hyfforddais i fod yn bensaer tirwedd. Cyfunodd hyn fy niddordebau yn yr amgylchedd naturiol a chynllunio a dylunio’r byd a wnaed gan ddyn. Daeth fy swydd broffesiynol gyntaf â mi i Gaerdydd am yr hyn roeddwn i’n meddwl fyddai’n ychydig flynyddoedd, ond 30 a mwy o flynyddoedd yn ddiweddarach dwi’n dal i fyw’n hapus yma gyda fy nheulu. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dwi wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus, dielw a masnachol ac wedi bod yn rhan-berchennog a chyfarwyddwr mewn sawl busnes llwyddiannus ac aflwyddiannus, gan gynnwys cwmni datblygu ffermydd solar a chwmni cyflenwi ynni. Dwi hefyd yn gyfarwyddwr gwirfoddol gyda TrydaNi-Chargeplace Wales Ltd, menter gymdeithasol sy’n anelu at sefydlu rhwydwaith o glybiau rhannu ceir trydan ledled Cymru.

A phan nad ydych chi yn y gwaith?

Dwi’n darllen llawer – llyfrau hanes a nofelau ffuglen wyddonol neu ysbïo yn bennaf. Dwi hefyd yn mwynhau teithio ar hyd cilffyrdd a ffyrdd cefn Cymru – ar droed neu ar gefn beic modur – a gwneud ambell brosiect DIY achlysurol, er nad ydw i’n dda iawn gyda hynny.

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: