Posted on

Rheolwr Prosiectau Newydd yn ymuno

Ymunodd Jude â ni o’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ).  Fe fydd hi’n gweithio ar gyflawni prosiectau ym meddiant y gymuned sydd yn arfaeth Ynni Teg yn ogystal ag ar sefydlu cyfleoedd newydd.

Mae gan Jude dros 25 mlynedd o brofiad o weithio ar brosiectau ynni a chynaliadwyedd amrywiol yng Nghymru yn cynnwys effeithlonrwydd ynni, datblygiadau solar ar raddfa fawr a chynllun gwresogi rhanbarthol.  Mae hi’n entrepreneur brwdfrydig hefyd, sydd wedi sefydlu nifer o ficrofusnesau ecogyfeillgar.

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: