Posted on

Cwrdd â’r tîm: Karen

Dyma Karen, y Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Beth yw eich swydd yn Ynni Teg?

Fel Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, dwi’n ymgysylltu â chymunedau lleol yng Nghasnewydd a Chaerdydd yn ne Cymru, gan archwilio datblygiad Gorsaf Bŵer Rithwir sy’n eiddo i’r gymuned. Mae hyn yn canolbwyntio ar gymdogaethau o amgylch mosgiau yn y dinasoedd hyn sydd â storfeydd solar a batri wedi’u gosod. Nod y prosiect yw lleihau tlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy alluogi trigolion a busnesau lleol i gynhyrchu a rhannu ynni yn eu cymunedau.

Dywedwch ychydig amdanoch chi’ch hun

Symudais i Gasnewydd (de Cymru) yn 2017 ar ôl bod yn byw a gweithio ledled de a dwyrain Lloegr. Astudiais Fioleg (BSc) ym Mhrifysgol East Anglia, Rheoli’r Sector Gwirfoddol ym Mhrifysgol South Bank (PGCert), a Datblygu Cynaliadwy ar Waith ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (MSc).  Ers 1998, dwi wedi gweithio’n bennaf yn y sector gwirfoddol ar atal gwastraff, cyfranogiad cymunedol, ac ynni. 

A phan nad ydych chi yn y gwaith?

Fel arfer, fe welwch chi fi’n trochi fy nwylo ar fy rhandir, yn gwerthfawrogi’r mwydod a’r peillwyr. Dwi’n mwynhau cerdded, beicio, ioga ac ymarfer myfyrdod.

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: