Posted on

Rydym yn Recriwtio – Gorffennaf 2026

Rheolwr Prosiect, Project NUR

Oriau gwaith:  30 awr yr wythnos, i ganiatau gweithio’n hyblyg.

Bydd angen gweithio gyda’r hwyr, neu ar y penwythnos, yn achlysurol.   Bydd angen aros dros nos oddi cartref yn achlysurol gyda rhybydd o flaen llaw.

Cyflog dechreuol:   £32,000 – £36,000, ynghyd a lwfans car, yn ol profiad. (mae hyn yn seiliedig ar 30 awr yr wythnos)

Lleoliad:    Lleolir y swydd yn Ne Cymru, gan weithio o gartref yn bennaf neu mewn swyddfeydd a rennir yng Nghaerdydd, Abertawe, Barry neu Chasnewydd, ac ar leoliad.

Mae Ynni Teg Cyf. yn gymdeithas er budd y gymuned, wedi’i leoli yng Nghymru.  Ein prif amcan yw i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy er budd cymunedau yng Nghymru. Hafan – YnNi Teg

Ein nod yw i fod yn ddatblygwr isadeiledd ynni glan sydd yn eiddo i gymunedau ar draws Cymru, gan gyd-weithio gyda mudiadau lleol, asiantaethau cyhoeddus a phartneriaid masnachol er mwyn galluogi cymunediau i gael mwy o reolaeth ar ein ynni, er mwyn creu Cymru mwy gwydn.

Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn ymuno a thîm bach cyfeillgar sy’n ymrwymedig i ddarparu buddion i gymdeithas ac os ydych yn chwilio am oriau gwaith hyblyg, efallai mai dyma’r cyfle delfryol i chi.

Mae Ynni Teg yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn cefnogi amrywiaeth ac yn ymrwymedig i greu gweithle gynhwysol ar gyfer ein holl weithwyr.

Sut i wneud cais?

Os hoffech wneud cais ar gyfer y swydd hon, anfonwch eich CV ynghyd â datganiad personol [dim mwy na 2 dudalen], sy’n disgrifio eich sgiliau a phrofiadau allweddol a’r rhesymau rydych yn credu mai chi yw’r person delfrydol ar gyfer y rôl.

Anfonwch eich cais at info@ynniteg.cymru  erbyn diwedd y dydd ar ddydd Llun 27ain Gorffennaf 2026.

Disgwylir i gyfweliadau ar gyfer yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer gael eu cynnal ar y 5ed, 6ed, 11eg a 12fed Awst.

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: