

Fe wnaethom ni wahodd busnesau a sefydliadau lleol i ymuno â ni a’n partner brosiect Ynni Sir Gâr am frecwast ar gyfer lansiad swyddogol Prosiect Ynni Cymunedol Tref Caerfyrddin.
Gan weithio ar ran Cyngor Tref Caerfyrddin, rydym ni’n cynnig asesiadau ynni rhad ac am ddim i helpu busnesau/sefydliadau lleol i nodi meysydd lle gallant optimeiddio defnydd ynni.
Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu ni i nodi prosiectau ar raddfa fwy hefyd er mwyn ceisio am gyllid i helpu i arbed arian a dod â Thref Caerfyrddin yn nes at ei hamcanion sero net.
Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan lywodraeth y DU a Ffyniant Bro.
