Posted on

Fferm Solar Bwlchgwynt: wedi’i chomisiynu’n llawn

Mae grid trydan y DU o dan bwysau cynyddol, gyda chyfyngiadau capasiti yn arwain at rai prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael cynnig dyddiadau cysylltu mor hwyr â 2030. Ac eto, mae’r angen i gyflymu cynnydd tuag at dargedau sero net yn fwy brys nag erioed.

Mae fferm solar Bwlchgwynt Ynni Teg yn enghraifft wych o osgoi blynyddoedd o aros yn llwyddiannus, gan wneud gosodiad solar (solar installation) 576kWp yn weithredol – heb fod angen uwchraddio cysylltiad grid llawn a chan gynhyrchu digon o drydan glân i bweru 500 o gartrefi.

Mae’r fferm solar hon gwerth £1 miliwn yn defnyddio capasiti grid sbâr o’n tyrbin gwynt presennol ar y safle.

Yn gynharach eleni, cafodd y safle ddifrod storm, ond yn dilyn rhaglen atgyweirio lwyddiannus, rydym yn falch o gyhoeddi bod y fferm solar bellach wedi’i chomisiynu’n llawn ac yn cynhyrchu ynni glân.

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: