Ein tîm

Ein tîm

Jon Townend, BA, Dip.LA, Cyfarwyddwr Gweithredol

Mae Jon yn gyfrifol am reoli’r tîm datblygu a busnes o ddydd i ddydd y gymdeithas ar ran bwrdd y cyfarwyddwyr.
Jon oedd Prif Bensaer Tirwedd yn yr elusen amylcheddol Groundwork Bridgend a Neath Port Talbot, cyn sefydlu ei ymarfer ymgynhori yn 2003. Daeth i fyd ynni adnewyddadwy fel cynllunydd tirwedd yn 2011 ac yna fel rheolwr gyfarwyddwr cwmni ynni adnewyddadwy rhwng 2012-15 wnaeth gyflawni tua 90MW o gapasiti cynhyrchu mewn lleoliadau ledled y DU. Yn fwy diweddar, mae wedi gweithio i Gwent Energy CIC ac ymuno ag Ynni Teg in 2020 fel Rheolwr Prosiect. Mae Jon hefyd yn gyfarwyddwr gwirfoddol gyda TrydaNi-Chargeplace Wales, cwmni budd cymunedol sy’n canolbwyntio ar fentrau trafnidiaeth gynaliadwy.
Guy Hopwood, MSc, Rheolwr Datblygu

Rôl Guy yw i weithio fel rhan o’r tîm i gydnabod a datblygu cyfleoedd newydd a chyflawni rhestr o brosiectau sydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd
Mae Guy newydd ymuno â thim datblygu YnNi Teg. Mae ganddo radd mewn Amaethyddiaeth a Choedwigaeth ac MSc mewn Rheoli Adnoddau Gwledig, y ddwy o Brifysgol Bangor. Mae ei brofiad yn cynnwys bron i 25 mlynedd yn gweithio i ymgynghoriaeth amgylcheddol, yn cynnwys 10 mlynedd yn canolbwyntio ar brosiectau ynni adnewyddadwy wedi’i ddilyn gan bron i 3 mlynedd gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Mae ei brofiad mewn datblygu a rheoli prosiect yn cynnwys canfod safleoedd, asesu safleoedd a hyfywedd technegol, cynllunio, adeiladu a gweithredu. Mae Guy yn gyfarwyddwr ar Grannell Community Energy, sydd â thyrbin gwynt 500kW yng Ngheredigion.
Jane Nerys O’Brien, MSc.(Eng) Rheolwr Datblygu

Ymunodd Jane â thim Ynni Teg dros dro yn Hydref 2021, mae bellach yn rhan o’r tîm sy’n adnabod cyfleoedd a chyflawni prosiectau sydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Mae ganddi MSc Eng mewn Rheoli a Chadwraeth Ynni ac mae wedi gweithio yn y sector cynaliadwyedd ers dros 25 mlynedd.
Mae sgiliau Jane yn cynnwys newid syniadau i brositectau realistig ac mae’n mwynhau helpu grwpiau cymunedol i gyrraedd eu bwriadau cynaliadwyedd. Mae ganddi brofiad mewn datblygu technelog ynni adnewyddadwy o’r syniadau cychwynol hyd at osod, yn cynnwys darparu gwasanaeth ar gyfer Government Office North West. Yn ystod 10 mlynedd yn gweithio ar gyfer ADFYWIO Cymru, rhoddodd gymorth i dros 35 prosiect yn cynnwys mentrau cymdeithasol, buddion cymunedol a rheiny’n amrywio o ddatblygu tyrbeini gwynt, i dyfu bwyd, iechyd a lles. Mae hefyd yn gyfarwyddwr gwirfoddol ar gyfer Ynni Cymunedol Grannell a Renewable Power Pembrokeshire, gwnaeth Jane weithio o fewn tîm bychan i ddatblygu dau tyrbin gwynt cymunedol yn Cribyn, Llambed (500kW) a De Sir Benfro (800kW). Mae Jane yn gweld ymddygiad holistig i gynlluniau cymunedol ac ynni eraill fel dull i symud ymlaen, sy’n cwmpasu rheoli grid, storio, datblygu technoleg adnewyddadwy, trafnidiaeth (ac, yn gysylltiedig i bob un, effeithlonrwydd ynni).
Gareth Tucker, MEng, MSc, CEng MIMECHE, Peiriannydd Prosiectau

Fel peiriannydd prosiectau, mae Gareth yn darparu mewnbwn technegol a chyngor i weddill y tîm, yn edrych am ddatblygiadau posib ac yn rheoli asedion presennol.
Mae Gareth yn beiriannydd siartredig gydag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag ynni adnewyddadwy a thechnoleg carbon isel arall, ac wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau ynni cymunedol llwyddiannus, yn cynnwys rhai sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r sectorau preifat a chyhoeddus. Ynghyd â’i waith rhan amser gyda YnNi Teg, mae Gareth yn gweithio fel ymgynghorydd ynni gydag Arup. Mae hefyd yn gyfarwyddwr ar nifer o sefydliadau cymunedol ac adnewyddadwy, sy’n cynnwys TrydaNi, YnNi Newydd, Swansea Community Energy & Enterprise Scheme a Seren Energy.
Weronika Tadrak, BSc, Swyddog Ymchwil a Chefnogaeth

Mae swyddogaeth Weronika gydag ymchwil a chefnogaeth yw ymgymryd ag ymchwil a anelir at anghenion ynni cymuned leol a defnydd datrysiadau sy’n bodoli eisoes ac arloesol fel ei gilydd, yn ogystal â llywio datblygiad prosiectau mwy cymhleth i ymateb i ystod o faterion yn cynnwys cyfyngiadau grid a newidiadau yn y farchnad ar gyfer rhoi cymorth gwell i sefydliadau cymunedol ledled Cymru.
Cefndir Weronika yw Cynllunio a Thechnoleg Pensaernïol. Graddiodd hi o Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyda Baglor yn y Gwyddorau. Ar hyn o bryd mae hi’n cyflawni doethuriaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil academaidd yn canolbwyntio ar gynyddu maint Systemau Ynni Clyfar Lleol. Bwriad yr ymchwil yw archwilio posibiliadau Systemau Ynni Clyfar Lleol ar gyfer hwyluso’r broses o ddatgarboneiddio’r amgylchedd a adeiledir a datganoli systemau ynni mewn clystyrau o adeiladau bychain sy’n bodoli eisoes.
Judith Cook, MA, PIEMA, Rheolwr Datblygu

Jude yw aelod diweddaraf tîm YnNi Teg. Gwaith Jude yw’r ddarpariaeth o brosiectau ynni adnewyddadwy ym meddiant y gymuned sydd yn yr arfaeth gan YnNi Teg a sefydlu cyfleoedd newydd i ddatblygu. Gyda phrofiad amrywiol yn rheoli prosiectau ac yn Ymarferydd Prince2, fe ddaw ag arbenigedd gwerthfawr i’r Gymdeithas.
Mae gan Jude radd MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol a thros 25 mlynedd o brofiad o weithio ar amrywiaeth o brosiectau ynni a chynaliadwyedd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yng Nghymru. Daeth yn gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy pan oedd yn rheolwr prosiect ar gyfer datblygiadau solar ar raddfa fawr yn 2012 ac aeth ymlaen i reoli cynllun ymchwil a datblygu gwresogi ardal a noddwyd gan yr UE. Yn fwy diweddar, mae hi wedi bod yn gweithio yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net yn rheoli rhaglen ar thema hydrogen. Mae ei phrofiad yn cynnwys gweithio gyda channoedd o fusnesau bach yng Nghymru hefyd ar gyfer gwella eu perfformiad amgylcheddol. Mae Jude yn entrepreneur brwdfrydig hefyd, gan iddi sefydlu sawl BbaChmicro ecogyfeillgar llwyddiannus.
Karen Smith, MSc, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Rôl Karen yw hwyluso’r gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu â chymunedau yng Nghasnewydd a Chaerdydd fel rhan o brosiect Gorsaf Bŵer Rithwir.
Mae ganddi radd MSc mewn Datblygu Cynaliadwy ar Waith a 25 mlynedd o brofiad o weithio ar brosiectau ynni a chynaliadwyedd yn y trydydd sector yn y DU. Bu Karen yn gweithio yn y Ganolfan Ynni Cynaliadwy am fwy nag 11 mlynedd ym maes ymchwil a chyngor ynni. Roedd hyn yn cynnwys ymchwil ar gyfer y Pwyllgor ar Dlodi Tanwydd, gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu, a’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net. Mae hi’n mwynhau gweithio ar brosiectau ymarferol, cydweithredol fel yr ymchwil ddiweddar ar anghenion pobl anabl mewn gwaith ôl-osod.
Cyn hynny, bu Karen yn gweithio i Brifysgol Gorllewin Lloegr ym maes marchnata a chyfathrebu, a’r Sefydliad Economeg Newydd ar gyfranogiad cymunedol.
Gautam Adhikary Barch, MSc, Swyddog Prosiect

Mae Gautam yn Swyddog Prosiect yn YnNi Teg ar gyfer Prosiect NUR, gan ganolbwyntio ar drafod effeithlonrwydd ynni a Gorsaf Bŵer Rithwir gymunedol â thrigolion.
Mae’n ddylunydd ac ymchwilydd pensaernïol sy’n angerddol am greu amgylcheddau adeiledig sy’n ymateb i’r hinsawdd ac sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae ganddo hefyd dros saith mlynedd o brofiad proffesiynol o greu tai carbon isel ac uwchgynlluniau . Yn ddiweddar, cwblhaodd Gautam radd MSc mewn Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ennill gwybodaeth ymarferol am fframweithiau dylunio sero net allweddol y DU. Mae wrthi, ar hyn o bryd, yn ymchwilio i dechnoleg sy’n dod i’r amlwg fel Deallusrwydd Artiffisial ac effaith y dechnoleg ar adeiladu adeiladau carbon isel o fewn y sector Pensaernïaeth, Peirianneg ac Adeiladu (AEC). Mae’n canolbwyntio ar sut gall yr offer hyn gyflymu dylunio cynaliadwy a gwaith ôl-osod (retrofitting).
Shahena Chowdhury BSc, BA, MBA, Swyddog Prosiect

Gwaith Shahena yw hwyluso ymweliadau â’r cartref a meithrin cysylltiadau â chymunedau yng Nghaerdydd a Chasnewydd fel rhan o Brosiect Gorsaf Bŵer Rithwir. Mae ei chyfrifoldebau’n cynnwys cydweithio ag aelwydydd ar effeithlonrwydd ynni ac ôl-osod carbon isel.
Mae ganddi radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes a thros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda’r gymuned yn ne Cymru fel dehonglydd, swyddog ymgyrchu gyda Chymdeithas Menywod Bangladeshaidd, BAWSO – Black Association of Women Step Out, a thrwy weithio yn yr ysgol leol.
Mae hi’n mwynhau coginio a diddanu, yn ogystal â nofio, darllen a gwneud fideos ar gyfer TikTok.
