Ymunodd tîm Ynni Teg team â chynhadledd flynyddol Ynni Cymunedol Cymru yn y Ganolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth. Roedd y gynhadledd eleni yn canolbwyntio ar ‘Bweru Ynni Lleol’.
Arweiniodd Jon, ein Cyfarwyddwr Gweithredol, y sesiwn ar Systemau Ynni Cyflawn – dull holistaidd, aml ffynhonnell o gynllunio, cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio ynni ar draws pob sector.
Gan gydnabod yr heriau a’r cyfyngiadau sydd arnom ni, anogwyd y cynrychiolwyr i’w rhoi o’r neilltu a siarad am y cyfleoedd ymarferol sydd i’r sector ynni adnewyddadwy.
