Rheolwr Prosiect, Project NUR
Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos, i ganiatau gweithio’n hyblyg.
Bydd angen gweithio gyda’r hwyr, neu ar y penwythnos, yn achlysurol. Bydd angen aros dros nos oddi cartref yn achlysurol gyda rhybydd o flaen llaw.
Cyflog dechreuol: £32,000 – £36,000, ynghyd a lwfans car, yn ol profiad. (mae hyn yn seiliedig ar 30 awr yr wythnos)
Lleoliad: Lleolir y swydd yn Ne Cymru, gan weithio o gartref yn bennaf neu mewn swyddfeydd a rennir yng Nghaerdydd, Abertawe, Barry neu Chasnewydd, ac ar leoliad.
Mae Ynni Teg Cyf. yn gymdeithas er budd y gymuned, wedi’i leoli yng Nghymru. Ein prif amcan yw i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy er budd cymunedau yng Nghymru. Hafan – YnNi Teg
Ein nod yw i fod yn ddatblygwr isadeiledd ynni glan sydd yn eiddo i gymunedau ar draws Cymru, gan gyd-weithio gyda mudiadau lleol, asiantaethau cyhoeddus a phartneriaid masnachol er mwyn galluogi cymunediau i gael mwy o reolaeth ar ein ynni, er mwyn creu Cymru mwy gwydn.
Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn ymuno a thîm bach cyfeillgar sy’n ymrwymedig i ddarparu buddion i gymdeithas ac os ydych yn chwilio am oriau gwaith hyblyg, efallai mai dyma’r cyfle delfryol i chi.
Mae Ynni Teg yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn cefnogi amrywiaeth ac yn ymrwymedig i greu gweithle gynhwysol ar gyfer ein holl weithwyr.
Sut i wneud cais?
Os hoffech wneud cais ar gyfer y swydd hon, anfonwch eich CV ynghyd â datganiad personol [dim mwy na 2 dudalen], sy’n disgrifio eich sgiliau a phrofiadau allweddol a’r rhesymau rydych yn credu mai chi yw’r person delfrydol ar gyfer y rôl.
Anfonwch eich cais at info@ynniteg.cymru erbyn diwedd y dydd ar ddydd Llun 27ain Gorffennaf 2026.
Disgwylir i gyfweliadau ar gyfer yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer gael eu cynnal ar y 5ed, 6ed, 11eg a 12fed Awst.





