Posted on

Cwrdd â’r tîm : CARYS

Dyma Carys, Swyddog Gweinyddol

Beth yw eich swydd yn Ynni Teg?

Fel Swyddog Gweinyddol, rwy’n darparu cefnogaeth weinyddol i Gyfarwyddwr Gweithredol y Gymdeithas, staff gweithredol a Bwrdd Ynni Teg.  Rwy’n gyfrifol am weithredu Polisi Iaith Gymraeg y Gymdeithas, ac am sicrhau bod y Gymdeithas yn cydymffurfio â’i pholisiau a gofynion rheoleiddiol cyfredol.

Rwyf hefyd yng nghlwm â chronfa Cymunedol Leol Ynni Teg ac rwy’n gyfrifol am weinyddu’r grantiau unwaith mae’r Bwrdd wedi’u cymeradwyo.

Dywedwch ychydig amdanoch chi’ch hun

Fe fues i’n gweithio ym myd teledu am sawl blwyddyn, yn HTV, BBC ac yn llawrydd i nifer o gwmnïau annibynnol.    Ar ôl gweithio gydag actorion, cyflwynwyr, cerddorion, pypedau a hyd yn oed tractor bach enwog oedd wedi’i animeiddio, penderfynais newid trywydd.    

Rwyf wedi bod a diddordeb mewn materion amgylcheddol ers blynyddoedd, ac rwy’n credu bod ynni cymunedol – y syniad o gadw buddion creu ynni yn ein cymunedau – mor bwysig, ar gyfer Cymru, ac ar gyfer dyfodol ein planed.    Rwyf wrth fy modd i allu gweithio gyda tîm arbennig i helpu gyda’r gwaith pwysig yma.

A phan nad ydych chi yn y gwaith?    

Ry’n ni newydd ddathlu blwyddyn ers i Willa, ein milgi fach, ddod i fyw gyda ni, felly gan amlaf fe fydda’i allan yn cerdded gyda hi a gweddill y teulu.    Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â ffrindiau dros bryd o fwyd neu baned o goffi, ac rwy’n hoff iawn o ymweld a’r theatre, sinema a chyngherddau.

Posted on

Diolch i’n cadeirydd Mari Arthur sy’n camu lawr

Mari Arthur out going chair YnNi Teg
Mari Arthur out going chair YnNi Teg

Diolch yn fawr iawn i Mari Arthur am ei harweinyddiaeth fel Cadeirydd YnNi Teg dros yr  blynyddoedd diwethaf.

Mae Mari wedi ysbrydoli ein tîm a rhoi hyder inni anelu’n uwch a ‘mynd amdani’. Mae ei dewrder, ei hymrwymiad a’i hangerdd dros ddod â phobl ynghyd i gymryd camau i ddiwallu eu hanghenion mewn ffordd gynaliadwy a theg wedi rhoi esiampl wych i ni, ac mae ei gweledigaeth wedi chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sefydlu Ynni Teg fel sefydliad credadwy sy’n tyfu, ac sy’n cyflawni prosiectau ynni cymunedol ledled Cymru.

Mae Mari yn parhau i ddarparu llais cryf i gefnogi’r sector ac i sicrhau trawsnewid teg i ynni adnewyddadwy a fydd o fudd uniongyrchol i bobl Cymru.

Dymunwn yn dda iddi yn ei holl ymdrechion yn y dyfodol.

Aelodau’r Bwrdd a Thîm YnNi Teg

Posted on

Dewch i weithio gyda ni

Rheolwr Cyllid (rhan-amser)

Lleoliad: Gweithio hybrido gartref, gyda phresenoldeb achlysurol mewn gweithleoedd swyddfa a rennir, neu fannau ar gyfer cyfarfod.

Cyflog dechreuol :  £18,000 sylfaenol y flwyddyn. (Cyflog amser llawn @ £45,000 yn ôl yr un gyfradd)

Cytundeb: Rhan-amser 15 awr yr wythnos, trefniadau gweithio hyblyg.

Rydym nawr yn chwilio am Reolwr Cyllid profiadol sydd â chymwysterau addas i gryfhau’r busnes.

Ydych chi’n credu mewn pŵer cymunedol ac ynni adnewyddadwy i Gymru?

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â thîm bach a chyfeillgar sydd wedi ymrwymo i ddarparu buddion cymunedol ac yn chwilio am oriau gwaith hyblyg i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw, efallai mai dyma’r cyfle delfrydol i chi.

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn dathlu amrywiaeth ac wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol i bob gweithiwr.

Pam Ymuno â ni?

· Wythnos waith hyblyg 4 diwrnod— oherwydd bod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig

· Cyfle i wneud gwir effaith wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ynni

· Rôl lle mae eich llais a’ch syniadau’n llunio dyfodol ynni cymunedol

· Bod yn rhan o dîm bach cyfeillgar a chefnogol

Os hoffech wneud cais am y swydd hon, cyflwynwch eich CV a datganiad personol [dim mwy nag 1 tudalen] yn nodi eich profiad a’ch sgiliau allweddol a’r rhesymau pam eich bod yn credu mai chi yw’r person cywir ar gyfer y rôl hon. Anfonwch y cais at carys@ynniteg.cymru.

Diwrnod cau: 5yp, Dydd Llun, 16 Chwefror 2026.

Bydd cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 2 Mawrth.

Angen help i lunio cais?

Dyma rai templedi defnyddiol i’ch helpu i baratoi CV a llythyr egluro.

Posted on

Rydym ni’n recriwtio

Swyddog Gweinyddol

Swyddog Gweinyddiol (rhan amser) – i gefnogi Gyfarwyddwr Gweithredol y Gymdeithas, staff a Bwrdd YnNi Teg .

Yn gyfrifol i’r:  Cyfarwyddwr Gweithredol a Bwrdd y Cyfarwyddwyr

Lleoliad:   O gartref, presenoldeb achlysurol mewn gweithleoedd swyddfa a rennir

Cyflog dechreuol:  £12,000 sylfaenol y flwyddyn. (£30,000 cyflogaeth amser llawn, yn ôl  yr un gyfradd)

Oriau gweithio:  Rhan amser – 15 awr yr wythnos, trefniadau gweithio hyblyg.

Ydych chi’n angerddol am ddyfodol grymuso cymunedau ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru?

Rydym yn chwilio am weinyddwr rhagweithiol a phrofiadol gyda safon dda o’r Gymraeg i ymuno â’n tîm i helpu i hyrwyddo ein hymrwymiad i ehangu ynni adnewyddadwy cost isel, sy’n eiddo lleol, i gymunedau ledled Cymru.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi gweithgareddau’r tîm, y Cyfarwyddwr Gweithredol ac aelodau Bwrdd YnNI Teg yn ystod cyfnod cyffrous yn YnNi Teg, wrth i ni ddatblygu prosiectau cymunedol newydd.

O weithredu polisi iaith Gymraeg y Gymdeithas, darparu cefnogaeth AD a helpu gyda digwyddiadau, os ydych chi’n mwynhau amrywiaeth ac yn chwilio am oriau gwaith hyblyg i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw, y swydd hon yw’r un i chi.

Pam Ymuno â Ni?

· Wythnos waith hyblyg 4 diwrnod— oherwydd bod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig

· Cyfle i wneud gwir effaith wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ynni

· Rôl lle mae eich llais a’ch syniadau’n llunio dyfodol ynni cymunedol

· Bod yn rhan o dîm bach cyfeillgar a chefnogol

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurho yn dweud wrthym pam yr hoffech weithio gyda ni a sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau a’r profiad rydym yn chwilio amdanynt.

Ymgeisiwch Nawr : anfonwch eich CV a’ch llythyr egluro at info@ynniteg-cymru Dyddiad cau: Dydd Llun, 1 Rhagfyr 2025.

Angen help i lunio cais?

Dyma rai templedi defnyddiol i’ch helpu i baratoi CV a llythyr egluro.