Swyddog Gweinyddol
Swyddog Gweinyddiol (rhan amser) – i gefnogi Gyfarwyddwr Gweithredol y Gymdeithas, staff a Bwrdd YnNi Teg .
Yn gyfrifol i’r: Cyfarwyddwr Gweithredol a Bwrdd y Cyfarwyddwyr
Lleoliad: O gartref, presenoldeb achlysurol mewn gweithleoedd swyddfa a rennir
Cyflog dechreuol: £12,000 sylfaenol y flwyddyn. (£30,000 cyflogaeth amser llawn, yn ôl yr un gyfradd)
Oriau gweithio: Rhan amser – 15 awr yr wythnos, trefniadau gweithio hyblyg.
Ydych chi’n angerddol am ddyfodol grymuso cymunedau ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru?
Rydym yn chwilio am weinyddwr rhagweithiol a phrofiadol gyda safon dda o’r Gymraeg i ymuno â’n tîm i helpu i hyrwyddo ein hymrwymiad i ehangu ynni adnewyddadwy cost isel, sy’n eiddo lleol, i gymunedau ledled Cymru.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi gweithgareddau’r tîm, y Cyfarwyddwr Gweithredol ac aelodau Bwrdd YnNI Teg yn ystod cyfnod cyffrous yn YnNi Teg, wrth i ni ddatblygu prosiectau cymunedol newydd.
O weithredu polisi iaith Gymraeg y Gymdeithas, darparu cefnogaeth AD a helpu gyda digwyddiadau, os ydych chi’n mwynhau amrywiaeth ac yn chwilio am oriau gwaith hyblyg i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw, y swydd hon yw’r un i chi.
Pam Ymuno â Ni?
· Wythnos waith hyblyg 4 diwrnod— oherwydd bod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig
· Cyfle i wneud gwir effaith wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ynni
· Rôl lle mae eich llais a’ch syniadau’n llunio dyfodol ynni cymunedol
· Bod yn rhan o dîm bach cyfeillgar a chefnogol
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurho yn dweud wrthym pam yr hoffech weithio gyda ni a sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau a’r profiad rydym yn chwilio amdanynt.
Ymgeisiwch Nawr : anfonwch eich CV a’ch llythyr egluro at info@ynniteg-cymru Dyddiad cau: Dydd Llun, 1 Rhagfyr 2025.
Angen help i lunio cais?
Dyma rai templedi defnyddiol i’ch helpu i baratoi CV a llythyr egluro.
