

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod YnNi Teg wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Cynnal Cymru, 2017.
Mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar Dachwedd 30ain, cafodd YnNi Teg eu cyflwyno gyda’r wobr am Fenter Gymdeithasol Gynaliadwy.
Roedd y seremoni wobrwyo, oedd dan arweiniad yr actor Rhodri Thomas, yn dathlu ymdrechion sefydliadau ac unigolion o amgylch Cymru sydd yn gwneud gwaith anhygoel o helpu i gyflawni cenhadaeth Cynnal Cymru o wneud Cymru yn genedl gynaliadwy.
Roedd cyfanswm o 27 yn y rownd derfynol, a’r rhestr enillwyr fel a ganlyn:
Busnes Cynaliadwy y Flwyddyn – Griffiths- Grŵp Cymunedol Cynaliadwy – Care Share and Give Sir Benfro
- Gwobr Prosiect Cynaliadwy Sector Gyhoeddus – Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda Greenstream Flooring, Rype Office Furniture ac Orangebox
- Ysgol Gynaliadwy – Ysgol Gynradd Thornhill
- Menter Gymunedol Gynaliadwy – YnNi Teg
- Adeilad / Lleoliad Cynaliadwy – Down to Earth
- Pencampwr Cynaliadwyedd – Phil Williams
- Sefydliad Addysg Uwch / Addysg Bellach Cynaliadwy – Pharmabees
- Ymarfer Cynaliadwy yn y Celfyddydau, Diwylliant a Chwaraeon – ‘It Doesn’t Have to be That Way – Breaking the Cycles of Abuse and Control’, Prifysgol Glyndŵr
- Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig – Nigel a Joyce Gervis, Tŷ-Mawr Lime
Mae wir yn anrhydedd i dderbyn gwobr o’r fath fri mor fuan wedi lansio YnNi Teg, ac fe hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i bleidleisio i ni.

Busnes Cynaliadwy y Flwyddyn – Griffiths