Rydym ni wedi llunio’r datganiad preifatrwydd hwn er mwyn arddangos ein hymrwymiad i chi, ein cwsmer ni, drwy gyfrwng gwybodaeth dryloyw, hawdd ei deall o ran ein defnydd ni o ddata. Fe fyddwch chi’n deall yr hyn yr ydym ni’n ei gasglu, pam rydym ni’n ei gasglu, a pha bethau y byddwn ni’n eu gwneud gyda’r data. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob un o frandiau, gwefannau, apiau, cynhyrchion, gwasanaethau, comisiynau, peiriannau neu dechnolegau Ynni Teg (fe fyddwn ni’n cyfeirio at y rhain gyda’i gilydd fel “Gwasanaethau”). Gellir cynnwys polisïau ac ymarferion preifatrwydd ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau arbennig maes o law os credir bod hynny’n angenrheidiol.
Y Wybodaeth a Gesglir
Mae ein gwefan ni’n defnyddio ffurflenni y byddwch chi’n rhoi manylion cyswllt arnyn nhw i ni (fel eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs, gwybodaeth bilio, cyfeiriad preswyl, cyfeiriad IP a chyfeiriad e-bost) ar gyfer creu cyfrif, gwneud archebion, ceisio am wybodaeth, a gofyn am gymorth i’ch cefnogi. Wrth i ni ddefnyddio eich cyfrif chi, fe allem ni gasglu ceisiadau am gymorth a gwybodaeth berthnasol o fathau eraill sy’n neilltuol i reolaeth eich cyfrif a’ch Gwasanaethau gyda ni.
Angen Cyfreithiol
Mae angen cyfreithiol a/neu gytundebol am wybodaeth o’r math hwn ar gyfer gallu prynu a defnyddio Gwasanaethau. Er enghraifft, mae angen i ni allu gwirio gwybodaeth o’r math hwn ar gais ein prosesydd taliadau ni. Mae angen amdani hefyd ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cyfreithiol i chi a gwneir hynny’n orfodol gan rai Gwasanaethau a gynnigir gennym ni. Mae hi’n orfodol yn ôl y gyfraith i ni wirio bod y wybodaeth a roddir yn gywir a chyflwyno hysbysiadau sy’n unol â’r gyfraith. Ystyrir bod cydsyniad cytundebol yn cael ei roi dros gyfnod eich defnydd chi o’r cyfryw Wasanaeth ac unrhyw gyfnod cadwraeth sy’n angenrheidiol yn ôl y gyfraith.
Sut Byddwn Ni’n Defnyddio’r Wybodaeth Hon:
Anfon E-byst. Gofynnol yn Gyfreithiol
Fel nodir uchod, rydym ni’n defnyddio e-byst i gysylltu â chi, ar gyfer anfon gwybodaeth y gwnaethoch chi ofyn amdani ac ar gyfer cyflwyno negeseuon sy’n ofynnol yn gyfreithiol neu’n gytundebol. Mae e-byst gofynnol yn gyfreithiol yn cynnwys e-byst gwirio ac unrhyw bolisi neu weithdrefn a lunir gan Ynni Teg neu ein partneriaid ni. Neu, fe allem ni farnu bod newid i un o’n polisïau ni’n berthnasol a, chan hynny, benderfynu bod dyletswydd (er nad yn ofynnol yn gyfreithiol) i ni roi gwybod i chi am y newid hwnnw. Nid yw negeseuon o’r mathau hyn yn gynwysedig yn unrhyw un o’n gweithdrefnau ni ar gyfer ymeithrio.
Anfon E-byst: Negeseuon Gwasanaeth a Negeseuon Hysbysebol
Fe allem ni ddefnyddio’r wybodaeth hon pan fo hi’n bwysig i ni gysylltu â chi ynglŷn â newidiadau o natur ymarferol i’r Gwasanaethau y gwnaethoch chi eu prynu a/neu i’n gwefan a rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid (“Negeseuon Gwasanaeth”.) Drwy brynu neu ddefnyddio ein Gwasanaethau ni, rydych chi’n cytuno i dderbyn y mathau hyn o negeseuon ac yn cydnabod eu bod yn orfodol. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon ar gyfer rhannu manylion am wasanaethau newydd a chynigion arbennig y credwn y bydden nhw o fudd i chi hefyd (“Negeseuon Hysbysebol”.) Gallwch ymeithrio o Negeseuon Hysbysebol (neu ddewis eu derbyn) drwy anfon e-bost i ni yn info@ynniteg.cymru .
Datgeliad Gofynnol yn Gyfreithiol
Ni fyddwn fyth yn rhannu eich gwybodaeth chi heb eich caniatâd neu mewn ffyrdd eraill nad amlinellir yn y polisi hwn. Yr unig eithriadau i hyn yw pan fyddai hynny’n orfodol i ni yn ôl y gyfraith, yn y gred gyda phob ewyllys da y byddai’r cyfryw weithred yn angenrheidiol i gydymffurfio â’r gyfraith, neu pan fyddai’n rhaid i ni gydymffurfio â phroses gyfreithiol. Mae gorchmynion llys a gwysion yn esiamplau o’r mathau hyn o eithriadau. Ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn, fe fyddwn ni’n adolygu’r dogfennau a ddarperir yn ofalus ac yn cydymffurfio ar yr amod y byddai’r cyfryw ddogfennau yn cyrraedd safonau cyfreithiol angenrheidiol.
Newidiadau yn Ein Hymarferion
Pe byddem ni’n newid ein hymarferion o ran defnyddio gwybodaeth neu agweddau eraill sy’n ymwneud â phreifatrwydd, fe fyddem ni’n nodi’r newidiadau hynny yn y datganiad hwn o bolisi. Os gwnawn ni unrhyw newidiadau sylweddol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy gyfrwng hysbysiad ar y wefan hon cyn i’r newid ddod i rym, ac fe allem ni wneud ymgais i roi gwybod i chi drwy e-bost am y newidiadau o ran preifatrwydd, pe byddai angen.
Casglu Gwybodaeth:
Gwybodaeth oddi wrth Offer
Rydym ni’n casglu gwybodaeth oddi wrth eich offer chi (cyfrifiaduron, ffonau symudol, llechi, ac ati), fel cyfeiriad IP, gwybodaeth cwci, er mwyn i ni adnabod eich offer ar gyfer anfon hysbysiadau cyfreithiol i chi (os yw hynny’n ofynnol yng ngwladwriaeth eich preswylfod), gwasanaethau cymorth (wrth i chi gysylltu â’n staff cymorth) a phrofiadau a bersonolir ar ein gwefan a chydag e-byst. Gall rhai mathau o gasgliadau a defnydd fod yn ddewisol a gellir eu rheoli drwy gyfrwng ein harfau cwcis.
Gwybodaeth oddi wrth Eraill
Rydym ni wedi ymrwymo i wella eich profiad chi ar ein gwefan yn barhaus. Fel llawer o gwmnïau, rydym ni’n defnyddio trydydd partïon i’n helpu i olrhain pori, nodi problemau technegol a darparu ffyrdd i wella eich profiad cyfan. Dyma rai o’r arfau a ddefnyddiwn ni a’u gweithrediad nhw:
Ffeiliau Cofnodi
Rydym ni’n defnyddio gwybodaeth a gesglir amdanoch chi oddi wrth ystadegau ein gwefan drwy ffeiliau cofnodi a ddarperir gan bartneriaid olrhain trydydd parti (er enghraifft, eich cyfeiriad IP) i helpu i ganfod problemau gyda’n gweinydd ac wrth weinyddu ein gwefan. Rydym ni’n casglu gwybodaeth ddemograffig fras o’r data hyn i’n helpu i rymuso ein gwefan a gwneud eich pori a’ch profiadau wrth brynu yn fwy dymunol. Nid yw hyn yn gysylltiedig ag unrhyw wybodaeth sy’n gallu enwi unigolion.
Cwcis
Mae ein gwefan ni’n defnyddio cwcis i olrhain gwybodaeth am eich sesiwn chi. Rydym ni’n cysylltu’r wybodaeth a gadwn ni mewn cwcis at wybodaeth bersonol i chi a anfonwch wrth ddefnyddio ein gwefan. Gallwn ddefnyddio cwcis adnabod sesiynau a chwcis parhaus fel ei gilydd. Mae cwci adnabod sesiwn yn darfod wrth i chi gau eich porwr. Mae cwci parhaus yn aros ar y gyriant am gyfnod estynedig o amser. Gallwch gael ymwared ar gwcis parhaus drwy ddilyn y cyfarwyddiadau a rodddir yn ffeil “help” eich porwr. Rydym ni’n defnyddio cwcis i storio eich enw hefyd os ydych chi’n dewis i’ch manylion gael eu cofio wrth fewngofnodi. Bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio i lenwi’r ffurflen mewngofnodi o flaen llaw ar achlysuron dilynol. Os ydych chi’n cael eich atgyfeirio i’n gwefan ni drwy hysbyseb neu wefan bartner, byddwn yn storio’r wybodaeth am yr atgyfeirio yn y cwcis. Nid yw defnydd cwcis gan ein partneriaid, cysylltiedigion, unrhyw gwmni gwasanaeth olrhain a darparwyr gwasanaeth wedi ei gwmpasu yn ein datganiad polisi ni. Nid oes gennym ni fynediad at y cwcis hyn nac unrhyw reolaeth arnyn nhw. Mae ein cwmni gwasanaeth olrhain yn defnyddio cwcis adnabod sesiynau i’n helpu i wella ein gwefan a gwneud eich profiadau chi’n fwy dymunol wrth bori a phrynu. Gweler eich panel dewisiadau cwcis am gyfarwyddiadau ychwanegol o ran sut i ddewis defnyddio cwcis neu ymeithrio. Mae’r panel dewisiadau cwcis yn dod i’r golwg pan fyddwch chi wedi gwneud penderfyniad ar y ffenestr naid polisi cwcis. Gwelwch ragor o wybodaeth o ran y categorïau o gwcis a ddefnydddiwn ni a’n polisi cwcis penodol yma. Drwy ddal ati i ddefnyddio a llywio ein gwefannau, gwasanaethau, rhaglenni, arfau neu anfon negeseuon, rydych chi’n cydsynio i’n defnydd ni o gwcis fel nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.
Arolygon
O bryd i’w gilydd, rydym ni’n gofyn am wybodaeth oddi wrth ddefnyddwyr drwy gyfrwng arolygon. Mae cyfranogiad yn yr arolygon hyn yn gwbl wirfoddol, ac mae’r defnyddiwr, gan hynny, â dewis o ran ymateb a datgelu’r wybodaeth hon neu beidio. Gall y wybodaeth y gofynnir amdani gynnwys manylion cyswllt (fel enw, e-bost) a gwybodaeth ddemograffig (fel cod post). Defnyddir gwybodaeth o arolygon at ddibenion monitro neu wella’r defnydd a’r profiad wrth bori’r wefan hon a’n Gwasanaethau ni.
Geirda
Fe allem ni roi geirda oddi wrth gwsmeriaid ar ein gwefan a allai gynnwys gwybodaeth sy’n rhannu peth o fanylion unigolion. Fe fyddwn ni’n cael cydsyniad y cwsmer drwy gyfrwng e-bost, cyn cyhoeddi’r geirda, ar gyfer nodi ei enw gyda’i eirda. Os hoffech chi wneud cais am dynnu eich geirda chi oddi ar y wefan, cysylltwch â ni yn info@ynniteg.cymru
Cynigion a Gwefannau Trydydd Parti
Mae ein gwefan ni’n cynnwys dolenni at wefannau trydydd parti eraill hefyd. Nid yw Ynni Teg (www.ynniteg.cymru) yn gyfrifol am ymarferion preifatrwydd na chynnwys y cyfryw wefannau. Rydym yn eich annog i ddarllen polisi prefatrwydd unrhyw wefan yr ymwelwch â hi gyda gofal.
Sut Byddwn Ni’n Rhannu’r Wybodaeth Hon
Mae Ynni Teg yn rhannu gwybodaeth ymhlith ei brandiau a chwmnïau cysylltiedig, a phartneriaid eraill. Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi at y dibenion a ddisgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn, yn cynnwys ar gyfer darparu Gwasanaethau y gwnaethoch chi ofyn amdanyn nhw. Nid ydym ni’n rhannu gwybodaeth sy’n enwi ein cwsmeriaid unigol gyda chwmnïau, mudiadau nac unigolion y tu allan i Ynni Teg, os nad oes unrhyw un o’r amgylchiadau a ganlyn yn berthnasol:
Gyda’ch Cydsyniad chi
Fe fyddwn ni’n rhannu gwybodaeth â chwmnïau, mudiadau neu unigolion y tu allan i Ynni Teg wrth i ni fod â’ch cydsyniad chi. Mae hyn yn cynnwys darparwyr trydydd parti sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau. Bydd gan bob un o’r darparwyr hyn eu polisi preifatrwydd eu hunain ac fe’u nodir yn briodol.
O fewn Ynni Teg
Gellir rhannu gwybodaeth o fewn Ynni Teg hefyd ar gyfer rhoi cymorth a chyflenwi Gwasanaethau a brynwch.
Gyda Phartneriaid
Fe allem ni rannu eich gwybodaeth â chwmnïau heb fod yn gysylltiedig sy’n:
Bartneriaid Hysbysebu, Dadansoddeg a Busnes (Cyfyngedig i Wybodaeth Nad yw’n Enwi Unigolion).
Fe allem ni rannu gwybodaeth gyfunol neu ffugenwol (yn cynwys gwybodaeth ddemograffig) gyda phartneriaid, fel dadansoddeg fesuriad, apiau, neu gwmnïau eraill. Nid ydym ni, fodd bynnag, yn rhannu gwybodaeth sy’n eich enwi yn bersonol (gwybodaeth sy’n enwi yn bersonol yw gwybodaeth fel enw neu gyfeiriad e-bost.) Pan fyddwch chi’n defnyddio apiau, gwefannau neu gynhyrchion trydydd parti eraill sy’n integredig â’n Gwasanaethau ni, fe allen nhw gasglu gwybodaeth am eich gweithgareddau yn amodol ar eu telerau a’u polisïau preifatrwydd eu hunain.
At Ddibenion Cyfreithiol ac Eraill
Fe allem ni ddefnyddio, cadw a datgelu gwybodaeth ar gyfer ymchwilio, atal neu gymryd camau sy’n gysylltiedig â: (i) threfn gyfreithiol a cheisiadau cyfreithiol; (ii) gorfodi ein Telerau Gwasanaeth Cyffredinol; (iii) haeriadau fod unrhyw gynnwys yn tramgwyddo hawliau trydydd partïon; (iv) ceisiadau am gymorth cwsmeriaid; (v) materion technegol; (vi) amddiffyn hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol Ynni Teg, ei ddefnyddwyr neu’r cyhoedd; (vii) sefydlu neu ymarfer ein hawliau cyfreithiol neu amddiffyn yn erbyn hawliadau cyfreithiol; neu (viii) fel mae’r gyfraith yn ei orchymyn fel arall. Gallai hyn gynnwys ymatebiadau i geisiadau cyfreithlon gan lywodraeth.
Diogelwch y Wefan
Mae mesurau ar waith ar ein gwefan ni ar gyfer amddiffyn colledion, camddefnydd neu newidiadau o ran y wybodaeth sydd yn ein rheolaeth. Rydym ni’n defnyddio dioglewch SSL 128-bit (neu fwy) i seiffro unrhyw ddarllediadau pan fyddwch chi’n darparu gwybodaeth cerdyn credyd, data personol, ac ati. Nid yw unrhyw ddull o storio neu ddarlledu electronig dros y rhyngrwyd yn 100% sicr, serch hynny. Felly, ni allwn warantu ei ddiogelwch absoliwt.
Amddiffyn Preifatrwydd Plant
Mae ein Gwasanaethau ni ar gyfer pobl yn gyffredin. Nid ydym yn fwriadol yn casglu, defnyddio nac yn rhannu gwybodaeth y gellid ei defnyddio i enwi plant o dan 18 oed heb ganiatâd rhiant o flaen llaw neu’n unol â chyfraith berthnasol.
Prosesu a Throsglwyddo Data
Pan fyddwch chi’n defnyddio neu’n rhyngweithio ag unrhyw un o’n Gwasanaethau ni, rydych chi’n cydsynio i’r prosesu, rhannu, trosglwyddo a defnydd o’r data gyda’ch gwybodaeth fel amlinellir hynny yn y Polisi Preifatrwydd hwn, a dim ond pan fo angen gwneud hynny er mwyn cyflawni ein cytundeb â chi, pan fyddwn wedi cael eich cydsyniad i wneud felly, neu’n amodol ar gymalau cytundebol safonol priodol. Rydych chi’n rhoi awdurdod i ni drosglwyddo, prosesu, storio a defnyddio eich gwybodaeth mewn gwledydd ar wahân i’ch gwlad eich hun yn unol â’r polisi Preifatrwydd hwn ac ar gyfer eich cyflenwi â Gwasanaethau.
Cydymffurfio â cheisiadau cyfreithiol, rheoliadol a gorfodi’r gyfraith
Rydym ni’n cydweithredu â swyddogion y llywodraeth a gorfodi’r gyfraith i orfodi a chydymffurfio â’r gyfraith. Fe allem ni ddatgelu unrhyw wybodaeth amdanoch chi i swyddogion y llywodraeth neu’r heddlu neu bartïon preifat, fel y gwelwn yn ddoeth, os credwn fod angen neu fod hynny’n briodol i ymateb i honiadau a threfn gyfreithiol (fel ceisiadau gwysio), ar gyfer amddiffyn ein heiddo a’n hawliau neu eiddo a hawliau trydydd parti, ar gyfer amddiffyn diogelwch y cyhoedd neu unrhyw unigolyn, neu ar gyfer rhwystro neu atal gweithgaredd yr ydym ni o’r farn ei fod yn anghyfreithiol neu’n anfoesol.
Hyd y graddau yr ydym ni â chaniatâd cyfreithiol i wneud hynny, fe allem ni gymryd camau rhesymol i’ch hysbysu os gorchmynir ni i roi eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti yn rhan o broses gyfreithiol. Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth hyd y graddau anghenrheidiol hefyd i gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a pholisïau.
Gwybodaeth Bwysig Arall
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn Berthnasol i Ynni Teg yn Unig. Nid yw’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i ymarferion y cwmnïau nad ydynt ym meddiant neu dan reolaeth Ynni Teg, neu i bobl nad yw Ynni Teg yn eu cyflogi na’u rheoli. Yn ogystal â hynny, gallai rhai cynhyrchion trydydd parti fod â pholisïau ac ymarferion gwahanol nad ydyn nhw’n ddarostyngedig i’r Polisi Preifatrwydd hwn.
Newidiadau
Fe allem ni ddiweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd, felly fe ddylech chi fwrw golwg drosto o dro i dro. Pe byddem ni’n gwneud newidiadau sylweddol, fe fyddwn ni’n rhoi rhybudd priodol i chi cyn i’r cyfryw newidiadau gael eu rhoi ar waith.
Cwestiynau ac Awgrymiadau
Ar gyfer materion cysylltiedig â phreifatrwydd a GDPR, gallwch gysylltu â ni yn info@ynniteg.cymru
Os oes gennych chi gwestiynau, awgrymiadau neu eich bod yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni drwy e-bost yn info@ynniteg.cymru
