Posted on

YnNi Teg yn lansio eu cynnig cyfranddaliadau cymunedol

Rob Proctor and Jeremy Thorp, YnNi Teg Directors holding up the new Share Offer document after completing the bike ride
Rob Proctor and Jeremy Thorp, YnNi Teg Directors holding up the new Share Offer document after completing the bike ride

Wrth i gynnig cyfranddaliadau cymunedol tyrbin gwynt YnNi Teg fynd yn ‘fyw’, mae dau Gyfarwyddwr wedi cwblhau taith feicio elusennol 90 milltir. Mae’r tyrbin gwynt wedi ei leoli yng nghefn gwlad bendigedig Sir Gaerfyrddin. Digwyddodd y daith feicio o’r tyrbin gwynt ym Meidrim, Sir Gaerfyrddin i Gaerdydd.

Dywedodd Rob Proctor, Cyfarwyddwr yn YnNi Teg Cyf, sydd yn Gymdeithas Budd Cymunedol: “Cododd ein taith feicio ddiweddar dros £600 ar gyfer yr elusen newid hinsawdd, Maint Cymru. Ein tasg ehangach rwan yw i godi £1.8M mewn cyfranddaliadau. Rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl ddod yn rhan-berchnogion yn y prosiect. Mae YnNi Teg yn rhagweld enillion o tua 5%, sydd yn drawiadol iawn.”

Mae’r tîm yn YnNi Teg wedi ymrwymo i ddatblygu dyfodol o ynni glân ac i liniaru newid hinsawdd. Mae’r tyrbin yn beiriant 900kW EWT, sydd wedi ei leoli 8 milltir (13 km) i’r gorllewin o Gaerfyrddin, ac amcangyfrifir ei fod yn atal 827 tunnell o CO₂ rhag mynd i mewn i’r atmosffer bob blwyddyn. Y disgwyliad yw y bydd yn generadu oddeutu 2100 MWh o drydan y flwyddyn, digon i bweru tua 650 o gartrefi. Ni fyddai’r cynllun wedi digwydd heb ymyriad YnNi Teg, gan y byddai’r newid i’r Tariffau Bwydo i Mewn (TBM) wedi gwneud y prosiect yn anymarferol. Er hynny, mae’r tyrbin i fyny ac yn rhedeg erbyn hyn a’r TBM wedi ei sicrhau.

Dywed Rob:

“Wrth bod YnNi Teg yn ymroddedig i adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn yng Nghymru, gan ledaenu budd generadu ynni ar draws cymdeithas yn hytrach na’i fod yn nwylo yr ychydig, bydd yr holl elw uwchben yr enillion o 5% ragwelir i gyfranddalwyr yn cael ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad ynni cymunedol drwy Gymru ac i greu cronfa gymunedol er budd y gymuned leol sydd yn agos i’r tyrbin.”

Gall unrhyw un 16 oed neu’n hŷn wneud cais am rhwng £100 a £100,000 mewn cyfranddaliadau. Mae cyfranddalwyr yn dod yn aelodau yn awtomatig, gan helpu i wneud penderfyniadau ynghylch beth ddylai YnNi Teg, cymdeithas gofrestredig, ei wneud. Mae gan y ffurff yma o Gymdeithas Gofrestredig set o reolau, sydd wedi eu cymeradwyo a’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Mae mwy o wybodaeth a ffurflen gais ar gyfer cynnig cyfranddaliadau cymunedol YnNi Teg ar gael ar-lein yn http://www.ynniteg.cymru/share-offer/.

Posted on

YnNi Teg yn lansio eu cynnig cyfranddaliadau ac yn Mynd yn Wyrdd i helpu i ddiogelu coedwig drofannol maint Cymru

YnNi Teg directors Go Green

Ar Ddydd Gwener, 13eg Hydref 2017, bydd Cyfarwyddwyr YnNi Teg yn ymuno mewn diwrnod o weithredu cenedlaethol drwy fynd yn wyrdd i gefnogi’r elusen amgylcheddol, Maint Cymru, tra hefyd yn lansio eu cynnig cyfranddaliadau eu hunain ar gyfer eu prosiect tyrbin gwynt yn Sir Gaerfyrddin. O wisgo sanau gwyrdd i wisgo wigiau a phaent gwyneb gwyrdd, mae’r Cyfarwyddwyr yn ymuno â channoedd o bobl ar draws Cymru i godi arian i helpu i ddiogelu ardal o goedwig drofannol sydd ddwywaith maint ein gwlad ni.

Eglurodd Rob Proctor, o YnNi Teg: “Byddwn yn cymryd rhan mewn taith feics noddedig o’n tyrbin gwynt ym Meidrim, Sir Gaerfyrddin, yr holl ffordd i Gaerdydd – cyfanswm o tua 90 milltir. Byddwn wedi gwisgo mewn gwyrdd felly bydd yn ddigon hawdd i’n hadnabod ar y ffordd!! Pan gyrhaeddwn Gaerdydd, byddwn yn lansio ein cynnig cyfranddaliadau yn swyddogol fel rhan o’r digwyddiad Maint Cymru, yn y Tramshed.”

Dywedodd Rita Singh, Cyfarwyddwr Maint Cymru: “Mae llawer o fusnesau ledled Cymru yn bwriadu Mynd yn Wyrdd drwy gynnal gwerthiannau bwydydd wedi eu pobi yn eu swyddfeydd neu gystadlaethau beicio i’r gwaith, ac rydym yn falch i fod yn gweithio ochr yn ochr gydag YnNi Teg i’w helpu i lansio eu cynnig cyfranddaliadau. Mae llawer o syniadau gwych i godi arian ar y thema gwyrdd. Y peth gorau oll, yw fod yr holl arian sydd yn cael ei godi yng Nghymru yn cael ei ddwblu drwy ein cronfa gyfatebol.”

Bydd yr arian sy’n cael ei godi ar gyfer Maint Cymru yn cael ei wario ar ystod o weithgareddau fydd yn helpu i ddiogelu coedwigoedd trofannol – o brynu eginblanhigion coed, i ariannu ceidwadau a chefnogi pobl leol gyda chyfleoedd busnes cynaliadwy bychan, drwy lobïo am hawliau perchnogaeth tir ar gyfer cymunedau lleol.

Mae coedwigoedd trofannol y byd yn amsugno bron i un rhan o bump o’r allyriadau carbon deuocsid mae dyn yn ei greu yn y byd ac un o brif nodau Maint Cymru yw i godi ymwybyddiaeth yn y pwysigrwydd o amddiffyn y coedwigoedd, fel rhan o’n hymateb cenedlaethol i newid hinsawdd.

Wedi cyrraedd targed nodedig yn ddiweddar – diogelu ardal o goedwig drofannol sydd ddwywaith maint Cymru – y gobaith yw mai diwrnod Mynd yn Wyrdd eleni fydd y mwyaf eto ac y bydd yn cael effaith sylweddol tuag at helpu i gynnal coedwigoedd trofannol i’r dyfodol.

Os hoffech noddi tim YnNi Teg, dilynwch y ddolen yma – https://mydonate.bt.com/fundraisers/ynniteg