
Diolch yn fawr iawn i Mari Arthur am ei harweinyddiaeth fel Cadeirydd YnNi Teg dros yr blynyddoedd diwethaf.
Mae Mari wedi ysbrydoli ein tîm a rhoi hyder inni anelu’n uwch a ‘mynd amdani’. Mae ei dewrder, ei hymrwymiad a’i hangerdd dros ddod â phobl ynghyd i gymryd camau i ddiwallu eu hanghenion mewn ffordd gynaliadwy a theg wedi rhoi esiampl wych i ni, ac mae ei gweledigaeth wedi chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sefydlu Ynni Teg fel sefydliad credadwy sy’n tyfu, ac sy’n cyflawni prosiectau ynni cymunedol ledled Cymru.
Mae Mari yn parhau i ddarparu llais cryf i gefnogi’r sector ac i sicrhau trawsnewid teg i ynni adnewyddadwy a fydd o fudd uniongyrchol i bobl Cymru.
Dymunwn yn dda iddi yn ei holl ymdrechion yn y dyfodol.
Aelodau’r Bwrdd a Thîm YnNi Teg
