Posted on

Cwrdd â’r tîm : CARYS

Dyma Carys, Swyddog Gweinyddol

Beth yw eich swydd yn Ynni Teg?

Fel Swyddog Gweinyddol, rwy’n darparu cefnogaeth weinyddol i Gyfarwyddwr Gweithredol y Gymdeithas, staff gweithredol a Bwrdd Ynni Teg.  Rwy’n gyfrifol am weithredu Polisi Iaith Gymraeg y Gymdeithas, ac am sicrhau bod y Gymdeithas yn cydymffurfio â’i pholisiau a gofynion rheoleiddiol cyfredol.

Rwyf hefyd yng nghlwm â chronfa Cymunedol Leol Ynni Teg ac rwy’n gyfrifol am weinyddu’r grantiau unwaith mae’r Bwrdd wedi’u cymeradwyo.

Dywedwch ychydig amdanoch chi’ch hun

Fe fues i’n gweithio ym myd teledu am sawl blwyddyn, yn HTV, BBC ac yn llawrydd i nifer o gwmnïau annibynnol.    Ar ôl gweithio gydag actorion, cyflwynwyr, cerddorion, pypedau a hyd yn oed tractor bach enwog oedd wedi’i animeiddio, penderfynais newid trywydd.    

Rwyf wedi bod a diddordeb mewn materion amgylcheddol ers blynyddoedd, ac rwy’n credu bod ynni cymunedol – y syniad o gadw buddion creu ynni yn ein cymunedau – mor bwysig, ar gyfer Cymru, ac ar gyfer dyfodol ein planed.    Rwyf wrth fy modd i allu gweithio gyda tîm arbennig i helpu gyda’r gwaith pwysig yma.

A phan nad ydych chi yn y gwaith?    

Ry’n ni newydd ddathlu blwyddyn ers i Willa, ein milgi fach, ddod i fyw gyda ni, felly gan amlaf fe fydda’i allan yn cerdded gyda hi a gweddill y teulu.    Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â ffrindiau dros bryd o fwyd neu baned o goffi, ac rwy’n hoff iawn o ymweld a’r theatre, sinema a chyngherddau.

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: