

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod Ynni Teg wedi derbyn cyllid ar gyfer y prosiect Gwyrdd Bangla yn ne Cymru. Gan weithio gyda’r Bengal Dragons Foundation, bydd y fenter hon yn dod â phaneli solar ffotofoltaig, storfa fateri, gwresogi solar, a thechnoleg gwefru ceir trydan i saith mosg ac adeiladau cymunedol – gan helpu i leihau allyriadau carbon a chostau ynni, a dod â dyfodol gwyrddach i ni i gyd.
Mae’r cam hwn yn cael ei ariannu gan Ynni Cymru, gyda chymorth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Diolch o galon i’n partneriaid ac i bawb am gefnogi’r daith hon tuag at Gymru lanach a mwy cynaliadwy.
