Y data diweddaraf o’r tyrbin yw iddo gynhyrchu 1,307 MWh rhwng 1 Ionawr a diwedd mis Medi eleni. Am yr un cyfnod y llynedd, cynhyrchodd y tyrbin 1,317 MWh.
Y data gwynt diweddaraf a gyhoeddwyd gan BEIS (cyfartaledd yw hwn ledled y DU) yw mai’r cyflymder cyfartalog am 8 mis cyntaf 2019 oedd 8.3knot, o’i gymharu ag 8.2knot yn 2018, ac 8.8 knot ar gyfer eu cymedr 10 mlynedd.
Felly mae’n edrych yn debyg bod 2018 a 2019 yn flynyddoedd cyflymder gwynt isel (tua 9% yn is na’r cyfartaledd) er nad ydym yn gwybod beth ddaw â gweddill 2019.
O ystyried cyflymder y gwynt isel, mae ein tyrbin yn cynhyrchu’n dda. Os yw Hydref – Rhagfyr eleni yn debyg i’r llynedd, dylem ddod i ben yn weddol agos at gyfanswm y llynedd, 1,934, ond gadewch i ni obeithio am chwarter olaf gwyntog, byddai’n dda torri’r rhwystr 2,000 MWh.
