
Gogledd Cymru/Swydd Gaer
Cleient: Ynni Newydd
Fferm solar 30MW gyda chydsyniad yw hon ar y ffin rhwng Sir y Fflint a Swydd Gaer. Pan fydd wedi cael ei adeiladu yn ei chyfanrwydd, mae’n debygol y bydd hi’n un o’r ffermydd solar mwyaf ym meddiant y gymuned yn y DU.
Mae YnNi Teg wedi darparu rheolaeth i’r prosiect, ymgysylltiad â rhanddeiliaid a gwasanaethau cefnogi cyffredinol i Ynni Newydd, sef cymdeithas budd cymunedol a sefydlwyd i ddatblygu’r fferm solar. Roedd ein mewnbwn ni o gymorth wrth sicrhau’r hawliau i’w datblygu. Mae’r safle yn sefyll ar y ddwy ochr i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ac roedd yn destun i Asesiad Amgylcheddol ar gyfer cefnogi dau gais cynllunio, y derbyniwyd y ddau ymhen amser. Mae Ynni Newydd yn symud ar hyn o bryd at gam adeiladu’r prosiect.
I ganfod mwy am y prosiect Ynni Cymunedol uchelgeisiol hwn, ewch i https://www.brettonhallsolar.co.uk/
