Prosiect Ynni Cymunedol Tref Caerfyrddin

Cleient: Cyngor Tref Caerfyrddin

Mae Ynni Teg yn gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Sir Gar www.ynnisirgar.org  ar gomisiwn i Gyngor Tref Caerfyrddin, i helpu i ysgogi Tref Caerfyrddin wrth gyrraedd ei hamcanion o ran allyriadau carbon sero net. Mae tîm y prosiect yn ymgymryd ag asesiadau ynni ac yn helpu busnesau/sefydliadau lleol i nodi meysydd lle gallant optimeiddio defnydd o ynni a lleihau galw, gan fod o gymorth wrth arbed arian a lleihau allyriadau carbon.  Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu ni hefyd gyda nodi cyfleoedd ar gyfer prosiectau cynhyrchu ynni ac fe allwn ni geisio cyllid wedyn i helpu i gyflawni buddiannau’r prosiectau hynny.

Ariennir y prosiect hwn gan grant oddi wrth Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Am ragor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan, ewch i https://ynnisirgar.org/zero-carmarthen/

Yn ôl i ‘Prosiectau’

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: