Tyrbin Gwynt Penrhiw Fach

Ceredigion
Statws: yn cael ei ddatblygu

Mae YnNi Teg yn datblygu safle ar gyfer ail dyrbin gwynt 900kW. Bydd hwn yn cynhyrchu tua 2,000-2,300 MWh bob blwyddyn ac rydym ni’n bwriadu darparu £150k o gyllid budd cymunedol dros oes weithredol o 25 mlynedd.

Mae gan y prosiect hwn gydsyniad cynllunio llawn ac rydym ni’n rhagweld gosod a rhoi’r tyrbin ar waith yn 2025. 

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi carreg filltir bwysig ar gyfer prosiect ynni cymunedol Penrhiw Fach: mae codi’r tyrbin gwynt i fod i ddechrau’r wythnos nesaf!

Ar ôl y gosodiad, mae’r prosiect ar y trywydd iawn i’w gomisiynu a’i egnioli erbyn diwedd mis Mai.

Yn ôl i ‘Prosiectau’

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: