Tyrbin Gwynt ‘Geraint Gwyllt’

Sir Gaerfyrddin
Statws: ar waith

Mae gan Ynni Teg dyrbin gwynt 900kW ar waith ym Mwlchgwynt gerllaw Meidrim, Sir Gaerfyrddin. Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol drwy werthiant o gyfranddaliadau a ddenodd dros 200 o bobl i ddod yn aelodau gan godi ychydig dros £490k o fuddsoddiad. Fe wnaethom ni dderbyn benthyciad masnachol sylweddol a weinyddir ar hyn o bryd gan Fanc Datblygu Cymru.

Comisiynwyd y tyrbin gwynt ym mis Awst 2017 ac mae’n cynhyrchu rhwng 1800 – 2000 megawatt awr (MWh) o drydan yn flynyddol—digon ar gyfer tua 500 o gartrefi.  Cynllunnir iddo redeg hyd 2042.   

Cafodd yr enw ‘Geraint Gwyllt’ gan ferch 6 blwydd oed leol, Mali, a ddewisodd ei enwi ar ôl y beiciwr buddugol o Gymru, Geraint Thomas.

Yn ogystal ag atal 827 tunnell tybiedig o CO2 rhag mynd i’r awyrgylch bob blwyddyn, mae incwm dros ben o werthiant ynni o’r tyrbin yn mynd at gronfa budd cymunedol i gefnogi prosiectau sy’n llesol i’r gymuned leol ac yn rhoi cefnogaeth i weithgareddau Ynni Cymunedol Cymru. I ganfod mwy am y gronfa budd cymunedol.

Yn ôl i ‘Prosiectau’

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: