Prosiect NUR

Ynni Teg, mewn partneriaeth â’r Bengal Dragons Foundation (BDF), wedi derbyn cyllid ar gyfer prosiect dwy flynedd a fydd yn torri newydd. Bydd y prosiect yn archwilio ac yn datblygu Pwerdy Rhithwir Cymunedol a fydd yn hyfyw yn ariannol ac â’r gallu i ehangu.

Nod y fenter hon yw grymuso cymunedau trefol gan eu galluogi i gynhyrchu, storio a rheoli eu hynni adnewyddadwy eu hunain, gan leihau costau ynni ac allyriadau carbon.

Mynd i’r Afael â Rhwystrau i Ynni Cymunedol

Mae datblygu prosiectau ynni cymunedol ar raddfa fawr yng Nghymru wedi bod yn anodd ers tro oherwydd cyfyngiadau capasiti’r grid, costau uchel o ran cysylltu, a diffyg hyfywedd ariannol.  Er mwyn goresgyn y rhwystrau hyn, mae Ynni Teg wedi bod yn archwilio modelau ynni “y tu ôl i’r mesurydd” a “gwifren breifat” arloesol sy’n caniatáu i ynni adnewyddadwy gael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio’n lleol, gan osgoi rhwystrau traddodiadol y grid.

Mae’r prosiect hwn gan Ynni Teg yn cynrychioli’r cam nesaf mewn arloesedd o’r fath – gyda’r nod o ddod â chartrefi ynghyd mewn un system ynni lle bydd pŵer yn cael ei gynhyrchu, ei storio, a’i rannu’n lleol. Nod y dull hwn yw sicrhau bod gan gymunedau Cymru ddyfodol mwy gwydn, costeffeithiol a chynaliadwy o ran ynni.

Erbyn diwedd y cam datblygu hwn, a fydd yn para dwy flynedd, mae Ynni Teg yn gobeithio sefydlu model VPP sy’n hyfyw yn ariannol ac sydd â’r gallu i gael ei ehangu. Gall hwn, wedyn, gael ei gyflwyno ledled Cymru, gan sicrhau y gall mwy o gymunedau elwa ar ynni adnewyddadwy sydd dan berchnogaeth leol.

Mae’r prosiect dwy flynedd hwn yn cael ei ariannu drwy Gynllun Gwneud Iawn Gwirfoddol y Diwydiant Ynni  www.energyredress.org.uk

Yn ôl i ‘Prosiectau’

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: