Aberteifi SLEM

Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin
Partner: Ynni Sir Gâr

Bu Ynni Teg yn cydweithio ag Ynni Sir Gâr i ddatblygu’r prosiect Ymchwil a Datblygu uchelgeisiol hwn i greu SLEM (Smart Local Energy Model) ar raddfa tref, dan arweiniad y gymuned yn Aberteifi, sy’n gwneud y mwyaf o gynhyrchu a storio lleol ac yn cydbwyso cyflenwad a galw.

Mae YnNi Dyfed wedi cael grant pontio o Gynllun gwneud yn iawn OFGEM am ddwy flynedd, a ddechreuodd ym mis Ebrill eleni, ac sy’n cwmpasu Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin gyda phartneriaid ynni cymunedol o bob un o’r ardaloedd hyn, ynghyd ag ystod o sefydliadau allweddol sy’n cefnogi’r gwaith, gan gynnwys Net Zero Wales 2035, Growing Mid Wales, YnNi Cymru a’r sefydliad cymunedol lleol 4CG.  

Fel partner cyflawni, rydym wedi bod yn darparu Rheoli Prosiectau, Ymchwil a datblygu modelu SLES (Smart Local Energy System).

Bydd y prosiect yn elwa’r economi leol, yn sicrhau cynllun ynni cynaliadwy a diogel, ac yn lleihau costau ynni cartrefi drwy Dariff Cymunedol.  

Rhan o’r weledigaeth yw y bydd hyn hefyd yn creu model y gellir ei ailadrodd ar gyfer trefi eraill yng Ngorllewin Cymru ac ymhellach.

Darganfyddwch ragor am y prosiect arloesol ac uchelgeisiol hwn ar wefan Ynni Sir Gâr: https://ynnisirgar.org/elementor-1656/

← Yn ôl i ‘Prosiectau’

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: